Skip to content

‘Miss. M’

Bu i Miss M hunangyfeirio ei hun at Sir Ddinbych yn Gweithio gan ei bod yn cael trafferth dod o hyd i waith ar ôl cael ei diswyddo, ar ôl sgwrs dros y ffôn bu i ni nodi ei bod yn addas ar gyfer y prosiect Cymunedau am Waith a Mwy (C4W+).

Ar ôl rhai cyfarfodydd gyda’i mentor C4W+, dywedodd Miss M y byddai’n hoffi cael trwydded tryc fork lift. Gan fod gan Miss M gefndir gwaith cryf, cytunodd C4W+ i ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol gan y teimlwyd y byddai’n ychwanegu maes pellach o arbenigedd i’w CV. Cwblhaodd a phasiodd Miss M yr hyfforddiant heb unrhyw broblem a dechreuodd ei siwrnai chwilio am waith.

Disgrifiodd Miss M ei hun fel rhywun eithaf annibynnol a theimlai nad oedd angen cymorth i ymgeisio am swyddi ond nid oedd yn cael unrhyw gyfweliadau, felly mi wnes i ei galw i mewn am apwyntiad a thrafod y ffordd roedd hi’n ymgeisio am swyddi. Darganfuwyd ei bod ond yn defnyddio un safle swyddi i edrych am waith, ac nid oedd wedi arbed ei CV yn llawn ac wedi methu ei deilwra ar gyfer bob swydd unigol, felly roedd llawer o wybodaeth ar goll pan roedd yn ymgeisio am swyddi.

Yna bu i ni drefnu i Miss M dreulio sesiwn gyda’r Swyddog Ymgysylltu Cyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio i wneud rhywfaint o waith ar sgiliau cyfweliad a chael ychydig o ymarfer.

Ychydig o wythnosau yn ddiweddarach, trwy gyfle arbennig gan Sir Ddinbych yn Gweithio, cynigiwyd profiad gwaith i Miss M gyda chwmni cyflenwadau adeiladu (yn dilyn cyfweliad llwyddiannus iawn) ac roedd wir yn edrych ymlaen ato.  Roedd cyfle gwych i hyn ddangos y sgiliau roedd wedi eu datblygu trwy hyfforddiant a phrofiad blaenorol yn y gobaith y byddai’n arwain at gyflogaeth. Yn anffodus, ni chynigiwyd swydd â thâl i Miss M, ond cafodd swydd llawn amser yn hytrach mewn cludiant ac roedd yn gallu darparu geirfa ardderchog i’w chyflogwr newydd.

I gael rhagor o wybodaethCysylltwch â:  Cymunedau am Waith  a Mwy, 01745 331438, cfw@sirddinbych.gov.uk