Skip to content

Miss. E

Crynodeb

Yn dilyn digwyddiad recriwtio yn Neuadd y Dref y Rhyl, cymerodd Miss E ei cham mawr cyntaf ers misoedd trwy atgyfeirio ei hun i’r prosiect i uwchsgilio a chanfod cyflogaeth newydd yn dilyn dileu ei swydd dros flwyddyn yn ôl. Cafodd Miss E ddamwain car y flwyddyn flaenorol a oedd wedi effeithio’n fawr ar ei hyder. Roedd hi’n teimlo’n nerfus am fynd i leoedd newydd ac roedd meddwl am wneud cais am swyddi a mynd i gyfweliadau yn bryder iddi. Gyda chefnogaeth ac anogaeth gan ei mentor (S) Cymunedau am Waith a Mwy, llwyddodd Miss E i gwblhau hyfforddiant i adeiladu ar ei gwybodaeth TGCh, a arweiniodd at ddechrau cyflogaeth am dâl yn y sector gweinyddu busnes.

Cefndir / Beth yw…?

Roedd damwain car Miss E wedi effeithio ar ei gwaith a’i bywyd cymdeithasol yn fawr cyn iddi gael ei hatgyfeirio atom ni. Nid oedd hi’n teimlo ei bod yn gallu symud ymlaen oherwydd bod ei hyder mor isel, er bod ganddi hanes cryf o weithio dros fwy na 10 mlynedd. Roedd Miss E yn teimlo’n bryderus mewn sefyllfaoedd newydd, felly cymerodd ychydig o apwyntiadau nes iddi deimlo’n gyfforddus ac fel nad oedd pwysau arni i wneud pethau nad oedd hi’n teimlo y gallai eu gwneud. Roedd mwyafrif ein hapwyntiadau yn cael eu cynnal mewn ystafelloedd preifat tawel yn y llyfrgell leol, lle byddai’n teimlo’n gartrefol a fel ei bod yn gallu trafod ei rhwystrau’n iawn. Roedd gan Miss E gymwysterau da o’r ysgol, fodd bynnag oherwydd eu bod wedi dyddio, roedd hi’n teimlo y byddai’n elwa o loywi ei sgiliau a rhoi cynnig ar feysydd newydd o bosibl. Roedd hi wedi colli hyder yn benodol gyda’i sgiliau TGCh a chyfrifiadurol, ac roedd hi’n credu bod ei hoedran yn rhwystr go iawn i oresgyn hyn. Gwnaethom barhau i drafod ei hyder gyda chyfweliadau lle datgelodd fod yr amgylchedd ffurfiol yn rhoi braw iddi ac roedd hi’n teimlo bod paneli cyfweld yn codi ofn arni. Roedd yn amlwg bod Miss E yn dioddef o orbryder a nerfau weithiau, ac wrth i ni ddechrau trafod, roedd Miss E yn gallu dweud ei bod yn amau ei hun yn aml a’i bod yn hoffi cael tawelwch meddwl.

Yr ymgysylltiad…

Er mwyn dechrau ymgysylltu, penderfynwyd edrych ar CV Miss E. Oherwydd problemau gyda’i gliniadur, dechreuwyd ar gopi papur a gwnaethom nodiadau am beth gellid ei newid, fel iaith benodol a ddefnyddiwyd o swyddi blaenorol na fyddai cyflogwyr eraill yn ei deall o bosibl. Gwnaethom grynhoi’r cyfan fel ei fod wedi’i gyflwyno’n well, gan gadw adrannau’n berthnasol i’r gwahanol rolau y byddai’n hi’n gwneud cais amdanynt. Dros gyfarfodydd dilynol, daeth yn amlwg y byddai Miss E yn elwa o hyfforddiant TGCh sylfaenol oherwydd ei bod yn cael trafferth llwytho ei CV i wefannau ac nid oedd yn gyfarwydd â phecynnau Microsoft. Nodwyd hefyd bod ei gliniadur yn hen ac nad oedd yn perfformio i’r safon ofynnol ar gyfer ei dyletswyddau chwilio am swydd gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau. Felly aethom ati i gwblhau cais i’r gronfa rwystrau i gael gliniadur newydd a’i chofrestru ar gwrs rhad ac am ddim mewn llyfrgell leol ‘Get Start in Business Admin’. Ar ôl treulio amser gyda’r Tiwtor, dywedwyd wrthym bod y cwrs yn rhy

sylfaenol ar gyfer ei hanghenion, ac roedd clywed y Tiwtor yn dweud hyn yn hwb mawr i’w hyder! Yna gwnaeth Miss E gais am swydd gyda’r GIG a dywedodd eu bod wedi addo cyfweliad iddi ond roedd hi’n dal i deimlo’n anesmwyth am broses y cyfweliad, felly gofynnodd am argymhellion o ran awgrymiadau ar gyfer cyfweliad.

Aethom ati i drefnu apwyntiadau i dreulio amser ar y maes hwn, yn enwedig oherwydd ei fod yn rhywbeth roedd Miss E yn teimlo’n arbennig o nerfus amdano. Oherwydd na chlywsom yn ôl gan y GIG am rai wythnosau, roeddem yn dal i chwilio am swyddi gwag a fyddai’n gweddu i    Miss E. Wrth wirio gwefan CSDd, gwelsom fod swydd berffaith ar gael ar gyfer gweithiwr derbynfa/cymhorthydd gweinyddol yn yr adran dai. Roedd Miss E yn awyddus i wneud cais, felly aethom ati i anfon cais gyda’n gilydd. Roedd yn amlwg bod hyder Miss E yn cynyddu oherwydd roedd hi’n gallu meddwl am fwy o bethau i’w hysgrifennu am ei sgiliau a’i phrofiadau. O fewn rhai dyddiau, cysylltodd CSDd â Miss E i gynnig cyfweliad. Roedd Miss E yn teimlo’n gyffrous iawn am hyn, a gwnaethom dreulio amser wrth drafod y cwestiynau a allai godi mewn cyfweliad. Eglurodd Miss E fod tasg yn rhan o’r cyfweliad, a sesiwn Holi ac Ateb, felly aethom ati i drafod beth allai fod yn rhan o’r dasg, e.e. teipio llythyr, egluro sut byddech chi’n ymdopi mewn sefyllfa anodd, egluro sut byddech chi’n ymdopi gyda thasgau sy’n gwrthdaro ac ati.

Yn ystod y dyddiau cyn y cyfweliad gyda CSDd, ffoniodd Miss E yn poeni am y cyfweliad. Roedd hi wedi meddwl am ei ganslo oherwydd roedd hi’n sicr y byddai’n ‘gwneud ffŵl o’i hun’ ac roedd hi’n newid ei meddwl am resymau pam y byddai hi’n dda yn y rôl. Treuliodd S amser yn ei sicrhau bod ei chais a’i phrofiad blaenorol wedi cyd-fynd â’r manylion, neu ni fyddai hi wedi’i dewis mor gyflym, ac awgrymodd ei bod hi’n gwneud nodiadau i fynd gyda hi, os byddai’n teimlo y byddai hynny’n ddefnyddiol, rhag ofn iddi deimlo’n nerfus yn y sefyllfa a bod ei meddwl yn wag. Yn dilyn y cyfweliad gyda CSDd, roedd Miss E yn ypset iawn a dywedodd fod y cyfweliad wedi bod yn ofnadwy. Dywedodd wrth S bod ganddi gywilydd o’i hun, a chyfaddefodd fod y prawf o ran y dasg wedi ei thaflu, ac wedi effeithio ar weddill ei chyfweliad. Dywedodd Sami wrth Miss E y gallent gysylltu â nhw gyda’i gilydd i ofyn am adborth. Er bod pwyntiau cadarnhaol gan mwyaf o’r adborth, roedd un o’r sylwadau yn awgrymu bod Miss E fel pe bai ganddi fwy o ddiddordeb mewn swydd reoli na swydd weinyddol. Dechreuodd Miss E gwestiynu a fyddai’n well ganddi edrych ar rolau goruchwylio a rheoli oherwydd bod ganddi brofiad yn y maes hwnnw. Ar ôl trafodaeth drylwyr gyda’i mentor, penderfynodd nad oedd am fynd yn ôl i wneud rolau goruchwylio, ac nad oedd hi am gael unrhyw beth rhy ddwys.

Oherwydd bod y dasg yn y cyfweliad wedi achosi i Miss E deimlo dan straen, gofynnodd S sut fyddai’n teimlo am gael ffug gyfweliad gydag un o Swyddogion Ymgysylltu â Chyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio. Oherwydd nad oedd hi wedi’i gyfarfod o’r blaen, credwyd y byddai’n helpu i roi hwb i’w hyder o bosibl, a hefyd oherwydd nad oedd o’n ei hadnabod hi, efallai byddai’n gallu sylwi ar bethau nad oedd S wedi sylwi arnynt. Roedd Miss E yn awyddus iawn i wneud hyn, felly trefnwyd apwyntiad. Parhaodd apwyntiad Miss E rai oriau ac roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn, ond dywedwyd wrth Miss E y dylai sicrhau ei bod yn gwrando ar y cwestiwn sy’n cael ei ofyn, a chymryd ei hamser wrth ateb.

Yn yr un wythnos, cysylltodd adran recriwtio’r GIG â Miss E i gynnig cyfweliad iddi, gan ymddiheuro am gymryd cyhyd i gysylltu’n ôl. Roedd Miss E yn teimlo rhyddhad ei bod am gael y cyfle hwn, felly trefnwyd apwyntiad arall gyda’i mentor i fynd dros y cwestiynau a allai godi, a thrafod strategaethau i’w chadw’n ddigynnwrf ar fore’r cyfweliad. Aeth Miss E i’r cyfweliad a ffoniodd S ar ei ffordd allan. Roedd hi’n swnio mor gyffrous ar y ffôn a dywedodd ei bod yn teimlo’n bositif iawn am y cyfweliad. Dywedodd yn falch ei bod hi a’r bobl a oedd yn cyfweld wedi cael hwyl ar ôl cyrraedd diwedd y cyfweliad. O fewn rhai dyddiau, gwnaethant gysylltu â hi eto i ddweud ei bod hi wedi bod yn llwyddiannus, ac roeddent am iddi ddechrau yn ystod y mis dilynol.

Bedwar mis yn ddiweddarach, roedd Miss E yn dal i weithio i’r GIG, tua 30 awr yr wythnos. Mae hi wedi cael adborth cadarnhaol cyson gan y rheolwyr yno, ac mae hi wedi bod yn gweithio mewn adrannau eraill fel cyllid a chaffael. Roedd y rôl yn swydd dros dro ond mae wedi’i hymestyn tan y flwyddyn nesaf, ac roedd y rheolwyr wedi’i hannog i wneud cais am swydd barhaol, hyd yn oed.

Mae Miss E yn dysgu llawer yn y rôl ac mae hi’n teimlo bod ei hyder wedi datblygu, ond yn bwysicaf oll, mae’n hi’n mwynhau ac mae hi’n teimlo’n hapus.

Arferion Da a Rannwyd / Gwersi a Ddysgwyd / Canlyniadau

• Gwnaeth hyder Miss E wella’n arw wrth dreulio amser yn ymarfer ffug gyfweliadau gyda Swyddog Ymgysylltu â Chyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio. Roedd yn ddefnyddiol iddi gael adborth gan rhywun diduedd. Roedd cydweithio yn hynod o lwyddiannus o ran ymgysylltiad Miss E.

• Wrth sicrhau bod nodau yn cael eu gosod ar gyfer y cleient ac nid dim ond y mentor, llwyddodd Miss E i gynnal lefel dda o annibyniaeth trwy’r gefnogaeth a chymerodd gyfrifoldeb am ei dysgu ei hun.

• Cysylltu â cholegau lleol i gael y manylion cywir ar gyfer y cyrsiau cywir.