Skip to content

Cyfranogwr ‘B’





Pan wnaeth Cyfranogwr B gyfeirio ei hun i’r prosiect, roedd yn gweithio oriau llawn amser ar incwm isel ac roedd yn awyddus i ddechrau gweithio’n hunangyflogedig ym maes ffitrwydd, sef rhywbeth roedd yn cael gwir fwynhad ohono. Oherwydd pwysau incwm isel a chefnogi ei deulu, nid oedd Cyfranogwr B yn siŵr sut i gymryd y cam nesaf at ei nod, felly gofynnodd am gefnogaeth Cymunedau am Waith a Mwy, a ddarparodd gyfeiriad clir iddo a ffynonellau cyllid y gallai eu hystyried. Mae Cyfranogwr B yn astudio ar gyfer ei gymhwyster Hyfforddwr Personol Lefel 3 bellach wrth gadw ei oriau llawn amser, ac mae’n bwriadu dechrau ei daith hunangyflogedig mewn rhywbeth mae wedi bod yn angerddol amdano erioed.

Gwnaeth Cyfranogwr B hunan-atgyfeirio at Gynllun Cymunedau am Waith a Mwy, sy’n rhan o Wasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio, ar ôl darllen hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn hysbysebu bwrsarïau cyflogaeth i bobl mewn gwaith rhwng 16 a 35 oed.

Roedd gan Gyfranogwr B ddiddordeb mewn gwneud cais am Fwrsari Cyflogaeth, sy’n cefnogi pobl i symud ymlaen yn eu swydd bresennol a/neu eu cefnogi i newid swydd trwy ddarparu cyllid ar gyfer hyfforddiant.

Roedd Cyfranogwr B yn gweithio llawn amser 37 awr yr wythnos fel gyrrwr dosbarthu gan ennill £15,500 y flwyddyn. Roedd am ddatblygu a dechrau gyrfa newydd fel hyfforddwr personol.

Roedd gan Gyfranogwr B bob amser ddiddordeb yn y diwydiant hamdden/chwaraeon ac wedi bod yn weithgar yn y diwydiant hwnnw yn ei amser ei hun, ond roedd am droi hyn yn brif yrfa iddo am ei fod yn ei fwynhau gymaint. Fodd bynnag, nid oedd ganddo’r arian ei hun i ddarparu’r cyllid ar gyfer y Cwrs Hyfforddiant Personol lefel 3 ar-lein.

Roedd Cyfranogwr B yn byw yn ardal Sir Ddinbych ac roedd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y cynllun bwrsari cyflogaeth. Roedd am wneud cais am y bwrsari ac roedd yn awyddus i ddechrau gweithio gyda’i fentor cyflogaeth er mwyn gwneud y newidiadau cywir yn ei fywyd er mwyn gwella ei les cyffredinol er ei fudd ef a’i deulu.

Roedd Cyfranogwr B yn credu mai’r rhwystrau iddo ddatblygu i mewn i’r yrfa roedd am ei dilyn oedd cyllid ac amser oherwydd bod rhaid iddo barhau i weithio llawn amser.

Aeth i apwyntiad gyda’i fentor cyflogaeth lle gwnaethant gwblhau asesiad seren waith i nodi ei rwystrau er mwyn llunio achos cryf dros gael y bwrsari cyflogaeth.

Mae’r Seren Waith yn adnodd asesu gweledol a oedd yn amlygu’r meysydd ymyrraeth roedd angen iddo fod yn edrych arnynt er mwyn cyflawni ei nodau o fod yn hyfforddwr personol.

Datgelodd yr apwyntiad allweddol hwn mai ei brofiad a sgiliau o ran swyddi oedd angen sylw – roedd hyn yn golygu bod modd i ni symud ymlaen a gwneud cais am y bwrsari er mwyn datblygu sgiliau Cyfranogwr B.

Parhaodd Cyfranogwr B i weithio mewn partneriaeth â’i Fentor Cyflogaeth i ymchwilio a chanolbwyntio ar gyrsiau hyfforddwr personol ar-lein a chael dyfynbrisiau ar gyfer cyrsiau a oedd yn cyd-fynd â’i ofynion. Roedd yn cyfarfod â’i fentor unwaith/dwywaith yr wythnos.

Cwblhaodd Cyfranogwr B CV newydd a gyda chefnogaeth casglodd y dystiolaeth gywir gan 3 darparwr cyrsiau yn ymwneud â’r cwrs hyfforddwr personol roedd am ei ddilyn. Ysgrifennodd ei fentor cyflogaeth ddatganiad ategol i gefnogi ei gais hefyd.

Yna anfonwyd y dogfennau hyn at Swyddog Datblygu Economaidd a Busnes Cyngor Sir Ddinbych. Cafodd bwrsari cyflogaeth ar gyfer Cyfranogwr B ei gymeradwyo ac mae’n edrych ymlaen at astudio ei gwrs hyfforddwr personol ar-lein. Mae ganddo tan 30 Medi 2020 i’w gwblhau. Pan fydd wedi’i gwblhau, mae’n rhaid iddo ddangos tystiolaeth o hyn i Gyngor Sir Ddinbych gyda thystysgrif o fewn 28 diwrnod o’i gwblhau.

Yn dilyn holl gefnogaeth Cymunedau am Waith a Mwy, mae Cyfranogwr B yn astudio’n galed ar hyn o bryd wrth gydbwyso â’i swydd lawn amser nes iddo gymhwyso fel Hyfforddwr Personol Lefel 3. Pan fydd wedi cymhwyso yn y dyfodol agos, mae’n gobeithio bod yn hunangyflogedig a rhedeg ei fusnes ffitrwydd ei hun.

Dechreuodd Cyfranogwr B ei daith gyda Phrosiect Cymunedau am Waith a Mwy ar ddechrau mis Ionawr 2020 a chafodd gynnig bwrsari er mwyn ailhyfforddi erbyn diwedd mis Chwefror 2020!

Roedd pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth yn amlwg iawn trwy gyfnod cefnogaeth Cyfranogwr B. Roedd defnyddio gwybodaeth ac argaeledd Bwrsari Cyflogaeth Person Ifanc y tîm Datblygu Economaidd a Busnes a chael cyfarfodydd rheolaidd gyda Chyfranogwr B yn darparu sylfaen wych i gynorthwyo Cyfranogwr B i gamu ymlaen yn ei yrfa.