Skip to content

‘Mr. J’

Crynodeb

Cyfeiriwyd Mr J at Gymunedau am Waith a Mwy gan Ganolfan Waith y Rhyl gan ei fod yn awyddus i gael cefnogaeth i edrych am hyfforddiant a gwaith. Rhyddhawyd Mr J o’r carchar ar ôl dedfryd am ymosod ac roedd ganddo hefyd gefndir o gamddefnyddio sylweddau. Pan fu i mi gwrdd â Mr J am y tro cyntaf roedd yn gweithio 10-16 awr yr wythnos fel gyrrwr dosbarthu bwyd ond ni allai gynnal hyn oherwydd y cyflog isel a gwaith trwsio oedd ei angen ar ei gar na oedd yn gallu ei fforddio ac o ganlyniad daeth yn ddi-waith.  Bu i ni gydweithio i adnabod ei gryfderau a pha swyddi fyddai’n addas ac edrych ar feysydd ble fyddai’n elwa o hyfforddiant pellach. Bu i Mr J oresgyn rhai rhwystrau anodd yn ystod ei gyfnod gyda’r prosiect, a daeth yn ddigartref ar un cyfnod. Ers bod yn rhan o’r prosiect, mae hwyliau Mr J wedi gwella, ac er bod rhywfaint o ffordd i fynd, rwy’n hyderus y bydd ei ddyfalbarhad parhaus a’i agwedd gadarnhaol wrth weithio gyda’r prosiect yn caniatáu iddo symud ymlaen a bod mewn sefyllfa llawer mwy sefydlog yn y dyfodol agos.

Yr ymgysylltiad…


 Yn ystod ein cyfarfodydd cychwynnol, bu i Mr J a mi gwblhau Asesiad o Anghenion i gael gwell dealltwriaeth o beth roedd ei eisiau o’r prosiect a sut gallwn ni ei helpu i gyflawni hyn. Bu i’r asesiad amlygu bod Mr J angen rhywfaint o gefnogaeth gyda sgiliau TGCh gan ei fod yn ei chael yn anodd ymgeisio am swyddi ar-lein. Roedd hefyd yn amlwg o brofiadau blaenorol Mr J ei fod yn mwynhau swyddi oedd yn cynnwys gyrru ac wedi deall fod nifer o swyddi gyrru a hysbysebwyd yn cynnwys CPC fel anghenraid. Edrychwyd ar yr hyfforddiant oedd ar gael yn yr ardal a chadwyd lle iddo ar gwrs CPC i wella ei ddiogelwch ar y ffyrdd, deddfwriaeth ac ymwybyddiaeth o yrru. Ar ôl i Mr J gwblhau ei hyfforddiant, cafodd ei Gerdyn Cymhwyster Gyrrwr, yn cynnwys tystysgrifau o’r holl fodiwlau a gwblhawyd. Yn ogystal â hyn, cadwyd lle iddo ar gwrs cyfrifiaduron rhan amser i ddechreuwyr trwy Goleg Llandrillo, fodd bynnag ar y diwrnod roedd i fod i ddechrau’r cwrs cyrhaeddodd y llyfrgell wedi cynhyrfu, a dywedodd wrthyf fod ei landlord wedi rhoi rhybudd iddo adael erbyn diwedd yr wythnos. Dywedodd Mr J fod ei landlord wedi darganfod nad oedd bellach mewn cyflogaeth a’i fod ar gredyd cynhwysol ac nid oedd yn hapus iddo barhau i fyw yn yr eiddo. Bu i ni ffonio Shelter Cymru yn syth i ystyried ei ddewisiadau a chael cyngor pellach a bu i ni ddarganfod, oherwydd y cytundeb tenantiaeth penodol roedd ganddi hawl i ofyn iddo adael gydag ond wythnos o rybudd.

Dywedais wrth Mr J am fynd at y Tîm Atal Digartrefedd ac i wneud apwyntiad gyda NACRO er mwyn iddo gael cefnogaeth tenantiaeth.  Roedd NACRO yn gallu talu blaendal tŷ a chafodd Mr J gytundeb tenantiaeth ar gyfer fflat 1 ystafell wely o fewn cyfnod byr.

Roedd Mr J yn isel iawn ac wedi bod yn ystyried hunanladdiad pan wnes i gwrdd ag ef i ddal i fyny dros yr wythnosau canlynol. Dywedodd ei fod wedi symud i mewn ond nid oedd ganddo unrhyw nwyddau gwynion, popty na dodrefn. Yr unig beth yn y fflat oedd hen soffa a pheiriant golchi a adawyd gan y tenant blaenorol. Roedd Mr J yn cymryd bod y peiriant golchi yn iawn i’w ddefnyddio ond pan roddodd ymlaen, bu i’r drwm falu a rhwygo ei ddillad. Roedd Mr J bron yn ddagreuol wrth egluro hyn wrthyf a dywedodd ei fod yn teimlo fel rhoi’r gorau iddi gan fod rhywbeth arall yn digwydd i’w wthio yn ôl bob tro mae’n symud ymlaen gydag un peth. Dywedodd hefyd ei fod yn teimlo temtasiwn i ddychwelyd at droseddu ar gyfer budd ariannol. Roedd ysgogiad Mr J yn amlwg wedi ei herio, felly bu i mi ei sicrhau bod pethau y gallwn ymgeisio ar eu cyfer, i geisio cael yr eitemau roedd wirioneddol eu hangen. Ceisiais ei atgoffa ynghylch pa mor bell roedd wedi dod mewn cyfnod mor fyr a’i fod yn amlwg yn unigolyn penderfynol iawn. Dywedais wrtho am siarad gyda’i feddyg teulu ynglŷn â theimlo’n isel a theimladau o hunanladdiad a rhoddais y rhifau cyswllt iddo ar gyfer sefydliadau megis y Samariaid a CALM. Cytunodd Mr J y byddai’n cysylltu â’i feddyg, ac erbyn diwedd y sgwrs roedd yn sylweddoli ei fod yn teimlo’n obeithiol am rai pethau yn ei fywyd a myfyriodd wrth i ni siarad fod mwy o bethau yn symud ymlaen nag oedd yn ei sylweddoli.

Cwblhawyd amrywiol geisiadau grant ar gyfer Vicar’s relief, Glasspool, Talisman Charity Trust, Hope Giver a St Vincent de Paul, yn ogystal â thaliad brys gan y Gronfa Cymorth Dewisol.  Cysylltais â banc bwyd Canolfan y Foryd i ofyn a oedd ganddynt unrhyw offer y gallwn eu cael neu eu benthyg wrth i ni aros i glywed am y grantiau hyn ac roeddent yn fodlon rhoi tostiwr a thegell. Bu i mi hefyd ymweld â Byddin yr Iachawdwriaeth a oedd yn fodlon rhoi duvet, gobennydd, rhai llestri/cytleri cegin a hefyd ychydig o siwmperi i Mr J.

Arferion Da a Rannwyd / Gwersi a Ddysgwyd / Canlyniadau

Yn ddiweddar gwelais Mr J a chafwyd cyfle i gael dal i fyny yn sydyn, ac wrth i ni siarad am rywbeth amherthnasol, chwarddodd…..y tro cyntaf ers tro i mi ei weld yn gwenu.

Mae siwrnai Mr J yn parhau wrth i ni aros i glywed am ddodrefn a nwyddau gwynion, ond rydym wedi cwblhau cais am swydd ‘gyrrwr teithwyr dan hyfforddiant’ i gwmni. Credaf yn gryf fod ganddo siawns dda o gael cyfweliad gan fod ganddo’r fantais o’i DQC ac wedi gwneud cynnydd mawr ers i mi gyfarfod ag o am y tro cyntaf.

Mae ymgysylltiad Mr J wedi bod yn wych trwy gydol ein cefnogaeth, hyd yn oed pan roedd ei ysgogiad a’i iechyd meddwl yn isel. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio ag o a chredaf fod ganddo lawer i’w gynnig i gyflogwr.