Skip to content

‘PETER’

Business ambition and success vector concept. Businessman with superhero shadow as symbol of power, leadership. Business ambition and success vector concept. Businessman with superhero shadow as symbol of power, leadership or courage and bravery. Eps10 vector illustration. growing confidence stock illustrationsAstudiaeth Achos – Peter

Mae Peter wedi cael mynediad i Sir Ddinbych yn Gweithio i dderbyn cefnogaeth i’w helpu i ddod o hyd i waith, nid oedd yn siŵr beth oedd o eisiau ei wneud ond roedd yn frwdfrydig i ddod o hyd i rywbeth y byddai’n ei fwynhau.  Mae Peter wedi bod yn ymgeisio am swyddi ers tro ond nid oedd wedi llwyddo i gael cyfweliad ac roedd hyn wedi effeithio ar ei hyder yn ei hun.

Yn dilyn trafodaeth gyda’n tîm brysbennu, penderfynwyd y byddai prosiect Cymunedau am Waith yn fwy addas i’w anghenion. Mae’r cynllun wedi ei gefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Drwy weithio gyda’i Fentor Ieuenctid, roedd hyder Peter wedi dechrau tyfu. Roedd wedi llenwi ei CV, ymarfer ei dechnegau cyfweliad a derbyniodd arweiniad drwy ffurflenni cais, yn ogystal â derbyn cyngor a chymorth 1-1 i’w helpu i oresgyn ei orbryder. Roedd hyn yn rhoi mwy o hyder i Peter yn ei hyder ei hun ac roedd yn gallu dangos i gyflogwyr beth fyddai’n gallu ei gynnig iddyn nhw.

Roedd Peter yn rhyngweithiol iawn yn ceisio sicrhau gwaith ond roedd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyfleoedd oedd ar gael yn yr ardal leol oedd yn cyfateb i’w sgiliau, roedd hefyd yn sylweddoli faint o amser ac ymdrech sydd ei angen ar gyfer pob ffurflen gais oedd yn gwneud y broses yn anoddach iddo ef.  Roedd yn gweithio gyda Chymunedau am Waith am oddeutu 3-4 mis, roedd ei Fentor Ieuenctid wedi treulio dros 2 fis gydag ef yn wythnosol ac yn ymgeisio am swyddi oedd yn cyfateb i’w brofiad.

Clywodd Peter ei fod wedi cael cyfweliad ar gyfer swydd Cymhorthydd Cwsmer yn y gangen Tesco lleol. Cafodd wahoddiad i gyfweliad ac ar ôl llawer o baratoi ac anogaeth gyda’i Fentor Ieuenctid, roedd yn teimlo’n hyderus y byddai’n plesio ei ddarpar gyflogwr ac yn cael cynnig y swydd. Ar ôl ei gyfweliad, dywedodd Peter ei fod wedi derbyn gwahoddiad am gyfweliad yn Sainsbury’s y flwyddyn flaenorol ond ni fynychodd oherwydd ei hunanhyder a gorbryder.  Roedd yr adborth o gyfweliad Peter yn wych, aeth i mewn yn hyderus a gofynnodd lawer o gwestiynau oedd yn berthnasol i’r swydd, yna cafodd wybod ei fod yn llwyddiannus ac roedd wrth ei fodd.