Skip to content

‘MISS. J’

Atgyfeiriodd Miss J ei hun i wasanaeth Sir Ddinbych Yn Gweithio ar ôl colli ei gwaith o fewn y sector gofal. Roedd Miss J am ddod o hyd i yrfa newydd y byddai’n ei mwynhau ac a fyddai’n ei galluogi i ddysgu sgiliau newydd. Gweithiodd Miss J yn galed i oresgyn ei phryder a’i hunan amheuaeth, a llwyddodd i sicrhau swydd weinyddol o fewn y GIG.

Ar ôl sgwrs gyda gweithiwr proffesiynol yn y GIG, atgyfeiriodd Miss J ei hun i’r gwasanaeth i weld beth allem ei gynnig iddi. Bu’n gweithio yn y maes gofal am nifer o flynyddoedd drwy asiantaethau gwahanol ond oherwydd pwysau gwaith a’r straen o ganlyniad i hynny, roedd wedi ei harwyddo i ffwrdd o’i gwaith. Yn anffodus, cafodd ei rhyddhau o’r cwmni oherwydd amgylchiadau na ellid eu rhagweld, ac o ganlyniad i hynny roedd Miss J yn teimlo’n anobeithiol ac wedi drysu o ran beth i’w wneud nesaf. Doedd hi ddim am fynd yn ôl i waith gofal o gwbl. Nododd Sir Ddinbych Yn Gweithio fod Miss J yn gymwys ar gyfer y prosiect Cymunedau am Waith i gychwyn ei thaith cyflogadwyedd, mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Yn ystod cyfarfod cyntaf Miss J gyda’i mentor Cymunedau am Waith roedd yn nerfus iawn. Ar ôl profiad gwael yn ei swydd ddiwethaf yn y maes gofal, eglurodd nad oedd am fynd yn ôl i’r diwydiant hwnnw eto. Fe wnaethom drafod ei diddordebau a chyflawni cynllun gweithredu gyda’n gilydd, lle eglurodd Miss J ei bod wastad wedi bod eisiau gweithio fel derbynnydd mewn meddygfa deuluol, bu ei Mam yn gwneud y swydd hon ac roedd Miss J yn credu y byddai’n mwynhau gwneud hynny.

Fe wnaethom eistedd gyda’n gilydd a sgwrsio am brofiad gwaith Miss J, a llwyddo i nodi sgiliau nad oedd Miss J yn sylweddoli ei bod yn meddu arnynt, ond roedd yn nerfus iawn ynglŷn â gwneud cais am swyddi a mynychu cyfweliadau. Eglurais rai o’r cyfleoedd oedd ar gael o dan Sir Ddinbych Yn Gweithio fel lleoliadau mewnol CSDd, felly fe wnaethom edrych beth oedd ar gael, a gwneud cais am leoliad Cynllun Dechrau Gwaith o fewn adran Adnoddau Dynol Sir Ddinbych. Fe wnaethom ymarfer cwestiynau cyfweliad drosodd a throsodd nes oedd Miss J yn teimlo’n fwy hyderus i’w hateb. Mynychodd y cyfweliad, ond cafodd wybod na fu’n llwyddiannus, ond dim ond ychydig bwyntiau o’r dewis cyntaf oedd hi. Er syndod, ni wnaeth hyn anobeithio Miss J, roedd n teimlo fod y cyfweliad wedi mynd yn dda iawn a chafodd hwb o ddeall ei bod wedi bod mor agos i lwyddo. YgsodoYsgogodd y  canlyniad hwn Miss J gychwyn ymgeisio am amrywiaeth o swyddi, fodd bynnag hysbysebion gyda’r GIG oedd fwyaf atyniadol iddi hi.

Cwblhaodd Miss J gais gwych ar gyfer Gweithiwr Cefnogi Banc a llwyddodd i gael y swydd. Yn anffodus, fe fethodd y diwrnodau hyfforddi angenrheidiol ar ôl i rai pryderon meddygol ymddangos, felly bu’n rhaid iddi aros 3 mis arall ar gyfer yr hyfforddiant nesaf. Tra’n aros am yr hyfforddiant wedi ei ail drefnu, roedd Miss J yn llawn cymhelliant ac ymgeisiodd am swydd Clerc Ward wrth Gefn. Cafodd gyfweliad, ond nid oedd yn teimlo’n rhy hyderus ei bod wedi cael y swydd. Wythnos yn ddiweddarach derbyniodd Miss J alwad ffôn nad oedd hi na’i mentor yn ei ddisgwyl, yn hytrach na chynnig y swydd wrth gefn iddi, roedd wedi gwneud cymaint o argraff nes eu bod am gynnig safle llawn amser yn y Ward Pediatreg o fewn yr ysbyty iddi. Roedd Miss J wrth ei bodd ac yn gyffrous iawn am y cyfle. Roedd hyn yn newyddion gwych iawn ac roedd wrth ei bodd!

Oherwydd cyflyrau iechyd Miss J a Covid 19, gohiriwyd ei dyddiad cychwyn o fis Ebrill i fis Mehefin. Roedd Miss J yn amyneddgar gan fod yr ysbyty yn ofnadwy o brysur ac roedd gwiriadau gyda’i harbenigwyr yn cymryd llawer iawn o amser. Cysylltodd y mentor gyda Miss J ddiwedd Mehefin i weld sut roedd pethau’n mynd, ni allai Miss J fod yn hapusach, roedd yn brysur ond yn mwynhau’r daith newydd hon yn fawr iawn.

Mae bob amser yn bosib newid beth rydych yn ei wneud, ac ail hyfforddi i wneud rhywbeth newydd. Pa bynnag swyddi ydych wedi ei wneud yn y gorffennol, mae gennych sgiliau trosglwyddadwy all eich helpu yn eich gyrfa newydd ac y gallwch barhau i adeiladu arnynt. Roedd Miss J yn llawn ymrwymiad a chymhelliant o safbwynt newid gyrfa, felly byddai bob amser un cam ar y blaen gyda’i cheisiadau. Hyd yn oed gyda rhwystrau, llwyddodd i gael ei swydd ddelfrydol. Mae’n allweddol fod mentor yn rhoi hyder yn y bobl rydych yn eu cefnogi a’u cefnogi ym mhob ffordd posib. Drwy wthio Miss J i ymgeisio am bethau na fyddai fel arall wedi eu gwneud, cafodd yr hyder roedd hi ei angen i wneud yn wych yn ei chyfweliad. Bu pethau’n anodd o safbwynt ei gor-bryder, ond wnaeth hi erioed adael i hynny ei rhwystro rhag cymryd camau ymlaen i gyflawni beth roedd hi ei eisiau.


Sir Ddinbych yn Gweithio, 01745 331438,
sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk