Skip to content

Cyfranogwr ‘Sir Ddinbych yn Gweithio’ wedi llwyddo i gael ei swydd ddelfrydol mewn gofal!

A picture showing a old man holding a ball


‘Mae angen hyder yn eich hun i wireddu eich breuddwydion a’ch nodau, peidiwch byth â bod ofn
gofyn am help ar hyd y ffordd’

meddai Sophie, 23 oed, sy’n byw yn Sir Ddinbych.

Cyfeiriwyd Sophie at ADTRAC, rhan o Sir Ddinbych yn Gweithio, i gael cefnogaeth gyda chyflogadwyedd yn Nhachwedd 2018. Roedd Sophie wedi bod allan o waith am dipyn. Roedd ganddi waith blaenorol yn glanhau ond roedd hi eisiau gweithio tuag at yrfa mewn gofal, naill ai
mewn meithrinfa neu fel gweithiwr cefnogi gofal ac yn y pen draw, ei nod yw gweithio i’r GIG un diwrnod.

Datblygwyd cynllun gweithredu wedi’i deilwra gyda Sophie, roedd hyn yn cynnwys llunio ei CV, edrych ar gyrsiau hyfforddi addas a dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli neu leoliad gwaith addas lle gallai gynyddu ei sgiliau. Aeth Sophie i bob apwyntiad cefnogaeth 1-1 a oedd ganddi yn ei
llyfrgell leol, roedd bob amser yn brydlon ac yn awyddus i ddatblygu.

Sefydlwyd cyrsiau hyfforddi perthnasol i Sophie fynd iddynt a thrafodwyd cyfleoedd gyda hi ar bob cyfle. Dewisodd Sophie wirfoddoli mewn grŵp rhiant a babi lleol. Aeth Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu Sophie, Jen Dutton, gyda hi i’w chyflwyno i staff ac i wneud yn siŵr mai dyma oedd y cyfle iawn iddi hi. Roedd Sophie wrth ei bodd ac mae hi wedi bod yn gwirfoddoli bob wythnos am bron i flwyddyn.

Fe wnaeth Sophie barhau i fynd i apwyntiadau 1-1 lle cafodd gymorth i ymgeisio am swyddi addas a chael cefnogaeth i baratoi ar gyfer cyfweliadau. Ymgeisiodd Sophie am sawl swydd heb lwyddiant, ond ni roddodd y ffidil yn y to. Nodwyd bod Sophie angen rhagor o gefnogaeth gyda hyder a hunan-gred, yn enwedig mewn cyfweliadau, felly gwnaed atgyfeiriadau i’n Hymarferydd Iechyd Meddwl BIPBC ADTRAC am gefnogaeth ychwanegol.

Cafodd Sophie wybod am raglen lleoliad gwaith BIPBC. Roedd hwn yn gyfle perffaith i Sophie ac roedd yn awyddus i ddechrau. Cafodd Sophie gefnogaeth drwy’r broses gyfweld a chafodd gynnig lleoliad gwaith. Cwblhaodd Sophie gyrsiau e-ddysgu ar-lein BIPBC fel rhan o’r cyfnod sefydlu a roddodd fwy o sgiliau iddi. Dechreuodd Sophie ei lleoliad 6 wythnos o Chwefror i Fawrth 2020 yn Ysbyty Glan Clwyd.

‘Rydw i mor ddiolchgar am yr help gan ADTRAC. Mae Jen wedi fy helpu’n fawr, wnaeth hi ddim rhoi’r ffidil yn y to gyda mi er fy mod i eisiau gwneud hynny weithiau. Fe wnaeth Jen sicrhau bod gen i bopeth yr oeddwn ei angen, fel ennill y cymwysterau cywir, fy helpu i fynd i wirfoddoli ac ar leoliad gwaith a sicrhau fy mod â’r wybodaeth gywir. Ni fyddai gennyf hanner y cymwysterau na’r hyder heddiw oni bai amdani hi neu gymorth ADTRAC. Ar y dechrau roeddwn yn amheus am yr holl syniad o gael fy nghyfeirio at ADTRAC oherwydd nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanynt o’r blaen. Byddwn i’n bendant yn argymell eu cefnogaeth i bobl eraill gan eu bod yn gweithio’n galed ac yn gwneud cynlluniau sy’n addas i chi fel y gallwch gyflawni eich nodau’

Gweithiodd dair shifft yr wythnos, i gynnwys shifftiau nos a gyda’r hwyr. Ar ddiwedd ei lleoliad, cafodd Sophie wybod y byddai angen iddi wneud rhagor o brofiad gwaith mewn ysbyty cymunedol cyn y byddai’n cael ei hystyried i fod yn staff banc y GIG. Roedd hyn yn siom i Sophie gan ei bod wedi gweithio mor galed, ond eto, ni roddodd y ffidil yn y to! Yna, cawsom gyfyngiadau symud oherwydd Covid-19 ym Mawrth 2020. Fe wnaeth ei Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu barhau i fod mewn cysylltiad â hi i roi gwybod iddi am swyddi gwag gofal addas, ond hefyd i roi gwybod iddi am y risg o fod yn weithiwr allweddol yn ystod y cyfnod hwn. Roedd Sophie’n dal yn awyddus i gael swydd â thâl mewn rôl ofalu. Cododd gyfle gyda CSDd mewn lleoliad cartref gofal preswyl. Anfonwyd y cyfle hwn ymlaen at Sophie a oedd yn awyddus i gael mwy o fanylion. Cafodd Sophie gefnogaeth i ymgeisio am y swydd a chafodd help i baratoi ar gyfer y cyfweliad drwy fideoalwad WhatsApp.

Roedd Sophie’n llwyddiannus yn ei chyfweliad ac mae’n dechrau ei swydd fel gweithiwr
cefnogi gofal mewn cartref preswyl yn Ninbych mewn ychydig o wythnosau! Mae hwn yn gam
mawr i Sophie ac yn gyflawniad mawr ar ôl gweithio mor galed i gyrraedd lle mae hi eisiau bod.

Dywedodd Jen Dutton, ei swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu: ‘Mae wedi bod yn bleser
cefnogi Sophie, roeddwn wrth fy modd pan glywais y newyddion ei bod wedi bod yn
llwyddiannus. Mae wedi bod yn anodd gweithio gartref ond mae’n wych meddwl y gallwn roi
cefnogaeth o hyd, sy’n galluogi cyfranogwr i gyflawni ei nodau, i gyd oddi wrth fy mwrdd bwyd!

Dywedodd Sophie ‘Rydw i mor ddiolchgar am yr help gan ADTRAC. Mae Jen wedi fy helpu’n
fawr, wnaeth hi ddim rhoi’r ffidil yn y to gyda mi er fy mod i eisiau gwneud hynny weithiau. Fe
wnaeth Jen sicrhau bod gen i bopeth yr oeddwn ei angen, fel ennill y cymwysterau cywir, fy
helpu i fynd i wirfoddoli ac ar leoliad gwaith a sicrhau fy mod â’r wybodaeth gywir. Ni fyddai
gennyf hanner y cymwysterau na’r hyder heddiw oni bai amdani hi neu gymorth ADTRAC. Ar
y dechrau roeddwn yn amheus am yr holl syniad o gael fy nghyfeirio at ADTRAC oherwydd
nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanynt o’r blaen. Byddwn i’n bendant yn argymell eu
cefnogaeth i bobl eraill gan eu bod yn gweithio’n galed ac yn gwneud cynlluniau sy’n addas i
chi fel y gallwch gyflawni eich nodau’.