Skip to content

Astudiaeth Achos – ‘D’

Mae’r cyfnod clo o ganlyniad i Covid-19 wedi bod yn gyfnod heriol iawn i bobl ifanc sy’n chwilio am swyddi.  Dyma ychydig o wybodaeth am un o’n pobl ifanc a fu’n llwyddiannus yn y dasg o chwilio am swydd, wedi ei gefnogi gan ei Fentor Cymunedau am Waith, Cerian.

Mae D wedi derbyn cefnogaeth gan fentor Cymunedau am Waith ers dros flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi dangos cryn benderfyniad ac ymroddiad ac mae wedi cwblhau lleoliadau gwaith, cyrsiau hyfforddi ac wedi dechrau gwirfoddoli. Roedd gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder D ac yn helpu i wella ei iechyd meddwl yn fawr. Ond pan ddaeth y cyfnod clo i rym, roedd D yn ei chael yn anodd gyda’i iechyd meddwl gan na allai wirfoddoli bellach ac wrth i’w ryngweithio gyda phobl leihau gan ei fod yn byw ar ei ben ei hun. Roedd ei fentor yn parhau i gysylltu’n rheolaidd gydag ef drwy negeseuon e-bost a galwadau ffôn a chefnogodd D i ymgymryd â thasgau a allai ei gadw’n brysur gan gynyddu ei sgiliau hefyd. Yna cododd cyfle am swydd gyda Chyngor ar Bopeth yn lleol a hysbysodd mentor D ef o’r cyfle hwn. Roedd gan D ddiddordeb mawr yn y rôl gan ei fod wedi bod yn awyddus i ddilyn gyrfa sy’n helpu pobl, o ganlyniad i’r holl gymorth y mae wedi ei dderbyn. Felly cefnogwyd D gan ei fentor i gwblhau’r cais a llwyddodd D i sicrhau cyfweliad. Yna cefnogwyd D gan ei fentor a Chydlynydd Cyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio i baratoi ar gyfer y cyfweliad a hynny drwy nifer o alwadau fideo. Roedd D yn llwyddiannus yn y cyfweliad a nawr mae mewn cyflogaeth llawn amser, y tro cyntaf ers 9 mlynedd. Mae D wedi dangos cryn benderfyniad, ac er ei fod wedi ei chael yn anodd yn ystod y cyfnodau ansicr iawn, nid yw wedi gadael i hyn ei atal rhag cyrraedd ei nod o ddychwelyd i gyflogaeth.  

Os hoffech wybod mwy am y gefnogaeth y gall Sir Ddinbych yn Gweithio ei chynnig cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar: 01745 331 438 neu e-bostiwch workingdenbighshire@denbighshire.gov.uk <mailto:Cerian.Phoenix@denbighshire.gov.uk> neu drwy ein gwefan www.workingdenbighshiredelivers.org <http://www.workingdenbighshiredelivers.org>