Daeth Liam i ADTRAC ar ôl gorffen gweithio mewn dwy swydd ar ôl cwblhau ei radd meistr. Roedd Liam yn gobeithio dod o hyd i waith yn ystod yr haf, ac yna’n gobeithio mynd ymlaen i astudio am PhD Cemeg yn Nottingham yn yr hydref. Ar ôl ymuno ag ADTRAC cefnogwyd Liam i baratoi sgiliau cyfweliad ac fe’i cyflwynwyd ar gyfer swydd o fewn Cyngor Sir Ddinbych ar y cynllun Work Start. Bu i Liam fethu a chael y swydd o drwch blewyn ac yn fuan wedyn daeth pandemig COIVD-19 a’r cyfnod clo i effeithio ar y wlad. Felly, roedd angen newid cyfeiriad a chytunodd Liam i gymryd rhan mewn hyfforddiant ar-lein a allai ei ddefnyddio i’w helpu wrth astudio ar gyfer ei PhD, er enghraifft, wrth symud i ddinas newydd a chwrdd â phobl newydd, sut i rwydweithio a chynllunio ei amser yn gywir, felly dewisodd wneud Sgiliau Rhwydweithio a Rheoli Amser gan y bu iddo fynegi ei fod angen sicrhau bod ganddo’r sgiliau hyn i’w helpu wrth wneud ymchwil ar gyfer ei PhD. Dywedodd fod y gwaith paratoi sgiliau cyfweliad wedi ei helpu i gynllunio ar gyfer ei gyfweliad yn Nottingham, ac wedi rhoi mewnwelediad amhrisiadwy iddo i’r hyn a ddisgwylir ganddo mewn cyfweliad. Yn Awst cafodd Liam gadarnhad ei fod wedi ei dderbyn i Brifysgol Nottingham i wneud y PhD mewn Cemeg. Bydd yn symud i’r ddinas ddiwedd Awst a bydd yn cychwyn y PhD ar 1 Hydref. Da iawn Liam!!
Ariennir ADTRAC yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
#EUfundscymru