Skip to content

Astudiaeth Achos – Mr. A

Mae Mr A wedi cael mynediad i Sir Ddinbych yn Gweithio i dderbyn cefnogaeth i’w helpu i ddod o hyd i waith, nid oedd yn siŵr beth oedd o eisiau ei wneud ond roedd yn frwdfrydig i ddod o hyd i rywbeth y byddai’n ei fwynhau. Mae Mr A wedi bod yn ymgeisio am swyddi ers tro ond nid oedd wedi llwyddo i gael cyfweliad ac roedd hyn wedi effeithio ar ei hyder yn ei hun.
Yn dilyn trafodaeth gyda’n tîm brysbennu, penderfynwyd y byddai prosiect Cymunedau am Waith yn fwy addas i’w anghenion. Mae’r cynllun wedi ei gefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Drwy weithio gyda’i Fentor Ieuenctid, roedd hyder Mr A wedi dechrau tyfu. Roedd wedi llenwi ei CV, ymarfer ei dechnegau cyfweliad a derbyniodd arweiniad drwy ffurflenni cais, yn ogystal â derbyn cyngor a chymorth 1-1 i’w helpu i oresgyn ei orbryder. Roedd hyn yn rhoi mwy o hyder i Mr A yn ei hyder ei hun ac roedd yn gallu dangos i gyflogwyr beth fyddai’n gallu ei gynnig iddyn nhw.

Roedd Mr A yn rhyngweithiol iawn yn ceisio sicrhau gwaith ond roedd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyfleoedd oedd ar gael yn yr ardal leol oedd yn cyfateb i’w sgiliau, roedd hefyd yn sylweddoli faint o amser ac ymdrech sydd ei angen ar gyfer pob ffurflen gais oedd yn gwneud y broses yn anoddach iddo ef. Roedd yn gweithio gyda Chymunedau am Waith am oddeutu 3-4 mis, roedd ei Fentor Ieuenctid wedi treulio dros 2 fis gydag ef yn wythnosol ac yn ymgeisio am swyddi oedd yn cyfateb i’w brofiad.

Clywodd Mr A ei fod wedi cael cyfweliad ar gyfer swydd Cymhorthydd Cwsmer yn y gangen Tesco lleol. Cafodd wahoddiad i gyfweliad ac ar ôl llawer o baratoi ac anogaeth gyda’i Fentor Ieuenctid, roedd yn teimlo’n hyderus y byddai’n plesio ei ddarpar gyflogwr ac yn cael cynnig y swydd. Ar ôl ei gyfweliad, dywedodd Mr A ei fod wedi derbyn gwahoddiad am gyfweliad yn Sainsbury’s y flwyddyn flaenorol ond ni fynychodd oherwydd ei hunanhyder a gorbryder. Roedd yr adborth o gyfweliad Mr A yn wych, aeth i mewn yn hyderus a gofynnodd lawer o gwestiynau oedd yn berthnasol i’r swydd, yna cafodd wybod ei fod yn llwyddiannus ac roedd wrth ei fodd.