Covid-19 cynydd
Oherwydd Covid-19, mae’r cyfnod clo wedi bod yn gyfnod heriol iawn i bobl sy’n chwilio am swyddi. Dyma ychydig o wybodaeth am un o’n cyfranogwyr a fu’n llwyddiannus yn y dasg o chwilio am swydd, wedi ei gefnogi gan ei Fentor Cymunedau am Waith, Cerian.
Cafodd D gefnogaeth mentor Cymunedau am Waith am flwyddyn a rhagor ac yn ystod y cyfnod hwnnw, dangosodd gryn benderfyniad ac ymrwymiad. Pan gyfeiriwyd D atom ni roedd wedi ei ynysu’n gymdeithasol oherwydd ei gyflyrau iechyd ac roedd yn teimlo ei fod wedi ei gyfyngu i swyddi penodol oherwydd hyn, ond gwyddai ei fod eisiau rôl oedd yn delio a phobl ble gallai helpu rhai oedd mewn angen. Gyda chefnogaeth y prosiect, cwblhaodd D leoliadau gwaith, cyrsiau hyfforddi a dechreuodd wirfoddoli. Cynyddodd hyn i gyd ei sgiliau, hyder a’i iechyd meddwl yn fawr iawn.
Yn anffodus, pan ddaeth y cyfnod clo, dechreuodd D wynebu trafferthion gyda’i iechyd meddwl unwaith eto gan na allai wirfoddoli bellach ac roedd ei ryngweithio a phobl yn lleihau oherwydd ei fod yn byw ar ei ben ei hun. Parhaodd mentor D i gadw mewn cysylltiad yn rheolaidd gydag ef drwy e-bost a galwadau ffon, gan ei gefnogi i gymryd rhan mewn tasgau allai ei gadw’n brysur a chynyddu ei sgiliau ar yr un pryd. Daeth cyfle i geisio am swydd leol gyda Chyngor ar Bopeth a theimlai mentor D y byddai’n gweddu i’r dim iddo. Roedd gan D ddiddordeb mawr yn y rôl gan ei fod wedi dangos awydd i ddilyn gyrfa yn helpu pobl oherwydd yr holl gymorth yr oedd o wedi ei dderbyn yn y gorffennol.
Cwblhaodd D y ffurflen gais gyda chymorth ei fentor a llwyddodd i gael cyfweliad. Teimlai D a’i fentor y byddai’n syniad da ymarfer ar gyfer ei gyfweliad i baratoi, felly siaradodd gyda Chydlynydd Gwaith Sir Ddinbych yn Gweithio er mwyn ymarfer nifer o alwadau fideo. Penderfynwyd defnyddio’r dull hwn oherwydd cyfyngiadau cymdeithasol Covid-19, a bod nifer o gyflogwyr yn cynnal cyfweliadau drwy gyfrwng technoleg yn hytrach na wyneb yn wyneb.
Cafodd D wybod y diwrnod canlynol ei fod wedi llwyddo yn y cyfweliad ac mae bellach mewn gwaith llawn amser am y tro cyntaf mewn 9 mlynedd. Dangosodd D gryn benderfyniad drwy gydol i gyfranogiad ar y prosiect, ac er iddo ei chael yn anodd yn ystod yr adegau anodd yma, yn union fel nifer o bobl eraill, ni wnaeth hyn ei rwystro rhag cyrraedd y nod o ddychwelyd i waith.
Am ragor o wybodaeth:
Os hoffech wybod mwy am y gefnogaeth y gall Sir Ddinbych yn Gweithio ei chynnig cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar:
Ffon: 01745 331 438
E-bostiwch workingdenbighshire@denbighshire.gov.uk
neu drwy ein gwefan www.workingdenbighshiredelivers.org http://www.workingdenbighshiredelivers.org