Cymunedau am Waith a Mwy
Crynodeb
Roedd Cyfranogwr A wedi bod yn cael trafferth â’i gyflyrau iechyd ers sawl blwyddyn, roedd yn awyddus i newid pethau pan gafodd ei gyfeirio at Gymunedau am Waith a Mwy. Yn dilyn cefnogaeth 1-1 gan fentor Cyflogaeth, dechreuodd Cyfranogwr A sylweddoli ei botensial, a dechreuodd ystyried cyfleoedd a oedd yn cyd-fynd â’i ffordd o fyw a oedd hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Drwy gynlluniau gweithredu a hyfforddiant, dechreuodd Cyfranogwr A wirfoddoli yn yr elusen gymunedol leol ac mae bellach yn mwynhau ei rôl yn fawr.
Cefndir
Cyfeiriwyd Cyfranogwr A at Gynllun Cymunedau am Waith a mwy, sy’n rhan o wasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio, gan ei hyfforddwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith.
Yn dilyn salwch difrifol yn 2013 a gafodd effaith ar gryfder ei gorff cyfan, roedd wedi bod yn hawlio budd-daliadau am 6 blynedd. Roedd Cyfranogwr A yn economaidd anweithgar yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty ac yn ystod y cyfnod adfer, a phan gafodd ei atgyfeirio atom ni, roedd yn hawlio lwfans Ceisio Gwaith am 12 mis gan fod y Adran Gwaith a Phensiynau wedi nodi ei fod yn ‘iach i weithio’.
Roedd Cyfranogwr A yn byw ar ei ben ei hun yn ardal Sir Ddinbych mewn eiddo rhent preifat. Roedd yn awyddus i ddychwelyd i’r gwaith gan ei fod yn teimlo’n llawer gwell, ac roedd yn barod i gymryd y cam nesaf er mwyn dychwelyd i’r gwaith, ond nid oedd yn siŵr lle i ddechrau. Fodd bynnag, roedd ei iechyd yn ei gyfyngu i ryw raddau o ran swyddi, hynny ydi, ni allai wneud gwaith corfforol nac unrhyw waith sy’n ymofyn codi pwysau trwm.
Roedd wedi gweithio yn y diwydiant Optegol yn y gorffennol, ac roedd ganddo dros 23 mlynedd o brofiad yn y maes gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli gyda chwmni optegol adnabyddus.
Yr ymgysylltiad…
Roedd Cyfranogwr A yn credu mai ei rwystrau i waith oedd ei oedran a’r ffaith nad oedd wedi cael ei gyflogi am 6 blynedd oherwydd ei salwch.
Mynychodd ‘Sesiwn Wybodaeth.’ Yn ystod y sesiwn hon, cyflwynwyd y cyfranogwr i gefnogaeth wedi’i deilwra yn seiliedig ar anghenion a oedd ar gael iddo gan Gymunedau am Waith a Mwy, er mwyn ei helpu i ddod o hyd i waith, addysg a/neu hyfforddiant.
Yn dilyn ei gyfarfod cyntaf gyda mi, ei fentor cyflogaeth, dechreuodd Cyfranogwr A sylweddoli bod dychwelyd i’r gwaith yn fwy realistig na’r oedd wedi’i feddwl yn wreiddiol. Dechreuodd fagu hyder ar ôl i ni drafod y meysydd yr oedd arno angen canolbwyntio arnynt gyda chefnogaeth Cymunedau am Waith a Mwy drwy wneud Seren Gwaith gyda’n gilydd.
Mae’r Seren Gwaith yn offeryn asesu gweledol sy’n amlygu’r meysydd ymyrraeth yr oedd arno angen eu hystyried er mwyn mynd yn ôl i weithio. Fe wnaeth y Seren Gwaith ddangos mai ‘sefydlogrwydd’ a ‘dyhead a chymhelliant’ oedd y meysydd yr oedd angen i Gyfranogwr A eu hystyried er mwyn symud ymlaen.
Gweithiodd mewn partneriaeth â’i Fentor Cyflogaeth er mwyn datblygu’r sgiliau penodol hyn, gan gyfarfod â’i fentor unwaith/ddwywaith yr wythnos. Cynhyrchodd CV cyfredol a dechreuodd wirfoddoli gyda Dial-A-Ride fel gyrrwr gwirfoddol. Mae hefyd wedi dysgu beth sy’n gwneud cyfweliad da a phroffesiynol, sydd wedi gwella ei hyder a’i iechyd meddwl cyffredinol.
Yn dilyn hynny, roedd wedi magu digon o hyder i anfon ei CV at asiantaethau perthnasol ar-lein a llenwi ffurflenni cais ar gyfer swyddi’n ymwneud â gwasanaeth cwsmeriaid.
Yn dilyn cefnogaeth gan Gymunedau am Waith a Mwy, mae Cyfranogwr A bellach yn gwirfoddoli i wasanaeth cludiant cymunedol sefydledig fel gyrrwr gwirfoddol ac wedi derbyn eu rhaglen hyfforddi.
Mae Dial-A-Ride wedi gofyn iddo a fyddai ganddo ddiddordeb mewn ymgeisio am unrhyw swyddi â thâl sy’n codi yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae’n mwynhau bod â ‘phwrpas’ ac ymdeimlad o berthyn i rywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd. Mae wedi mwynhau cyfarfod pobl newydd ac wedi dechrau cymdeithasu eto, roedd yn teimlo fod diweithdra wedi tynnu’r elfen hon oddi wrtho.
Ar ôl derbyn cymorth gan Gymunedau am Waith a Mwy, dywedodd Cyfranogwr A: ‘Mae’n amlwg eich bod yn mwynhau eich rôl ac yn wych am eich gwaith. Roedd yn hawdd siarad gyda chi, roeddech yn ofalgar ac yn hollol anfeirniadol … sy’n elfennau gwych o’r gwaith yr ydych yn ei wneud. Diolch o galon i Gymunedau am Waith a Mwy”.
Arferion Da a Rannwyd / Gwersi a Ddysgwyd / Canlyniadau
Dechreuodd Cyfranogwr A ei siwrnai â Phrosiect Cymunedau am Waith a Mwy ar 10 Chwefror 2020, ac roedd yn teimlo fod gwirfoddoli wedi ei roi at y trywydd cywir i ddod o hyd i gyflogaeth am dâl erbyn 18 Mawrth 2020!