Ar ddiwrnod Calan Gaeaf, cynrychiolodd Nia, Shannon ac Alex y tîm Sir Ddinbych yn Gweithio yn Nigwyddiad Arswydus STAND (Yn Gryfach gyda’n Gilydd dros Anghenion Ychwanegol ac Anableddau) yn neuadd y dref y Rhyl. Roedd y diwrnod yn dathlu blwyddyn ers sefydlu tîm STAND Gogledd Cymru, yn ogystal â lansiad swyddogol eu llyfrgell benthyca adnoddau.
Yn ogystal â Sir Ddinbych yn Gweithio, roedd staff o STAND eu hunain yn bresennol, Karma Wellbeing, Cysylltu, Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, Gwasanaeth Gwybodaeth i Oedolion, Hamdden, Lles Anabledd, Tîm o Amgylch y Teulu, Action on Hearing Loss Cymru, Gyrfa Cymru, Prosiect Gweddnewid Anableddau Dysgu Gogledd Cymru, Dechrau’n Deg, Therapi Galwedigaethol a PACE. Nododd rhai aelodau o’r cyhoedd a oedd yn bresennol yn y digwyddiad eu bod wedi derbyn llawer o wybodaeth.
Roedd y digwyddiad yn boblogaidd ymysg plant ifanc, a oedd yn lliwgar iawn yn eu gwisgoedd Calan Gaeaf di-ri, ynghyd â’u teuluoedd. Roedd yn gyfle i bob stondin ddarparu gwybodaeth ynghylch eu gwasanaethau a mwynhau ysbryd arbennig y diwrnod (maddeuwch y chwarae ar eiriau!)
Cynhaliwyd gemau a gweithgareddau i sicrhau bod y gwrachod a’r ysbrydion bychain yn cael diwrnod gwych, a rhoddwyd teganau a danteithion fel gwobrau. Bu’n rhaid i rieni ddioddef plant bywiog iawn am weddill y diwrnod yn ôl pob tebyg!
Ar stondin Sir Ddinbych yn Gweithio, roedd gennym ddwy gêm wahanol ar gael. Ar gyfer y cyntaf, rhoddwyd marc ‘x’ ar y llawr. Roedd yn rhaid i’r plant daflu pêl fownsio fechan i un o’r tair bowlen ar y stondin, roedd pob bowlen yn cynnwys tegan, siocled neu ddanteithion. Yn ogystal â hynny, roedd gennym Jenga gardd.
Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl i bawb a oedd yn bresennol. Cawsom gyfle i sgwrsio ag oedolion, plant a rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael.