Cyfres o gyrsiau hyfforddi byr i’ch paratoi chi ar gyfer canfod a sicrhau cyflogaeth.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio, mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, yn cynnig Cymorth Cyflogadwyedd.
Cynhelir y sesiynau rhad ac am ddim hyn yn Llyfrgell Y Rhyl o 10.30y.b i 12y.p. Bydd ymgynghorwyr ar gael i gynnig cymorth ymarferol wrth chwilio ac ymgeisio am swyddi a hyfforddiant ar gyfer unrhyw un sydd dros 16 mlwydd oed ac yn byw yn Sir Ddinbych.
Yn dechrau ar 1 Hydref, ac yna bob dydd Mawrth wedi hynny, cewch gymorth â:
- Chanfod ffocws galwedigaethol ac eich potensial!
- Creu CV effeithiol, sut i hyrwyddo eich hun ar bapur
- Bod yn geisiwr swydd effeithiol; canfod y manteision o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i chwilio am swydd
- Ysgrifennu llythyrau (neu e-byst) cais sydd yn tynnu sylw atoch
- Cwblhau ffurflenni cais mewn ffordd sy’n dangos eich bod yn bodloni gofynion y swydd
- Paratoi ar gyfer cyfweliad a theimlo’n fwy hyderus
Beth am alw heibio a gweld sut y gallwn eich helpu!