Skip to content

Olympaidd Sgiliau

a picture showing two men brick laying

Roedd Sir Ddinbych yn Gweithio’n falch o weithio gyda Grŵp Llandrillo Menai ar y Gemau Olympaidd Sgiliau a gynhaliwyd gan Goleg y Rhyl gyda’r Ganolfan ar gyfer Technoleg Modurol gwerth miliynau o bunnoedd a chanolfan ddynodedig i’r Chweched Dosbarth.  Roedd hefyd yn gyfle i ymwelwyr weld safle ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Peirianneg gwerth £11m yn y dyfodol sydd wedi cael cymeradwyaeth gan Gyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar.

Roedd yn gyfle i fyfyrwyr o feysydd gan gynnwys Trin a Thrwsio Cerbydau Modur, Trin Gwallt, Celfyddydau Creadigol, Lefel A, Trwsio Ceir, Mynediad at Addysg Uwch, Gwaith Saer, a Gwasanaethau Cyhoeddus ddangos eu doniau mewn brwydrau ar draws y campws i ennill medalau aur, arian ac efydd, ynghyd ag ystod o wobrau gwych a roddwyd fel rhodd gan bartneriaid diwydiannol. Trefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â GE Tools.

Roedd dros 20 o gwmnïau yn bresennol mewn sioe fasnach i alluogi dysgwyr o Goleg y Rhyl a lleoliadau eraill Coleg Llandrillo i weld rhai o’r datblygiadau sy’n newid yn gyflym o fewn y gwahanol ddiwydiannau.  Roedd digwyddiad dewisiadau gyrfaol / ar gyfer y dyfodol hefyd, a oedd yn galluogi i blant ysgolion lleol ymweld â’r campws, i gael cyngor am gyrsiau a gweld y cyfleusterau.

Rôl Sir Ddinbych yn Gweithio oedd cefnogi’r ffair yrfaoedd, trefnu presenoldeb gan ysgolion lleol a darparu cyngor a chanllawiau ar faterion cyflogaeth ar y diwrnod.  Cafwyd adborth gwych gan athrawon ysgolion a ddisgrifiodd y digwyddiad fel

“Llawn gwybodaeth, diwrnod cynhyrchiol iawn ac roedd y plant ysgol yn cael gwybodaeth sydd wedi cynorthwyo iddynt wneud penderfyniadau”.

Yn ystod y dydd, roedd Sir Ddinbych yn Gweithio a staff y Ganolfan Byd Gwaith yn gallu cynnig cefnogaeth a chyngor i bobl ar eu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol o ran sut i oresgyn rhwystrau i dderbyn cyflogaeth.   Gallai pobl o bob oedran, o rai yn eu 60au i blant ysgol dderbyn ysbrydoliaeth o gyflawniadau myfyrwyr Coleg y Rhyl.   Roedd ychwanegu digwyddiad gyrfaol yn gymorth i ddangos i bob un beth yw’r camau nesaf i gael cyflogaeth, beth bynnag fo’u hamgylchiadau mewn bywyd. 

Llongyfarchodd Salah Berdouk, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Cyfrifiadura a Diwydiannau Creadigol, Adeiladu a Pheirianneg yn GLLM, y rhai a enillodd fedalau a’r rhai a gymerodd ran ar y diwrnod.

Ychwanegodd Salah:  “Roedd yn enghraifft berffaith o’r diwydiant yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ysbrydoli pobl ifanc o’r Rhyl a Sir Ddinbych. Roedd y digwyddiad yn llawn buddion i’r gymuned gan fod gymaint o gwmnïau a sefydliadau yn bresennol, a disgyblion ysgolion lleol…. Da iawn, pawb.”

Y digwyddiad nesaf 

Byddwn yn cynnal ffair swyddi yn neuadd y dref y Rhyl ddydd Mercher 25 Mai lle bydd amrywiaeth o Gyflogwyr a sectorau ar gael i siarad a rhoi gwybodaeth i chi.