Skip to content

“Mr M”

a picture showing a man carrying wood

Cyfeiriodd Mr M ei hun at Sir Ddinbych yn Gweithio ac yntau’n cael trafferth dod o hyd i waith ar ôl colli ei swydd yn 2020 oherwydd Covid-19. Wedi cael sgwrs ar y ffôn fe gadarnhawyd ei fod yn addas i gymryd rhan yn y prosiect Cymunedau dros Waith a Mwy, ac fe neilltuwyd iddo Fentor Cyflogaeth, Tom.

Wedi un neu ddau o gyfarfodydd â Tom, penderfynodd Mr M y byddai’n hoff iawn o gael cerdyn labrwr CSCS. Roedd gan Mr M gefndir helaeth yn y diwydiant adeiladu, ac felly cytunodd Cymunedau dros Waith a Mwy ei gynorthwyo â hyn, gan fod teimlad y byddai ganddo obaith cryf o ddychwelyd i weithio ym myd adeiladu pe byddai’n cael ei gerdyn CSCS. Prynodd Cymunedau dros Waith a Mwy lyfr adolygu CSCS a’i anfon at Mr M fel y gallai baratoi ar gyfer y prawf. Cwblhaodd Mr M gwrs undydd ar Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Safle, ac fe basiodd y prawf CSCS y tro cyntaf. Wedyn fe wnaeth Cymunedau dros Waith a Mwy gais am gerdyn CSCS i Mr M ac fe gyrhaeddodd yn fuan wedyn.

Roedd Mr M yn gobeithio dod o hyd i waith ac yntau wedi cael ei gerdyn CSCS, ond er nad oedd angen fawr o gymorth arno wrth ymgeisio am swyddi, nid oedd yn cael ei wahodd i lawer o gyfweliadau. Cysylltodd Tom â Swyddogion Ymgysylltu â Chyflogwyr Sir Ddinbych yn Gweithio, a lwyddodd i drefnu cyfweliad i Mr M gyda Wye Valley Construction, a oedd wedi ennill y contract i ddymchwel hen Farchnad Queens yng nghanol y dref agosaf. Cafwyd sgwrs â Mr M ymlaen llaw i drafod ei gryfderau mewn cyfweliadau ac unrhyw bethau y byddai’n elwa ar gael cymorth â hwy, ac yna aeth ymlaen am gyfweliad gyda rheolwr y prosiect adeiladu. Roedd cyfweliad Mr M yn llwyddiannus a chafodd gynnig swydd llawn amser yn gweithio ar y prosiect i ddymchwel hen Farchnad Queens, ar gontract o chwe mis. Dechreuodd weithio yno ym mis Chwefror 2021. Fe brynodd Cymunedau dros Waith a Mwy bâr newydd o esgidiau gwaith iddo, a threfnu cwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth o Asbestos ar ei gyfer. Roedd Mr M yn ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth ac yn falch o fod yn gweithio eto.

I gael rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â: Tom Kilbourn, Mentor Cyflogaeth, 01745 331548, workingdenbighshire@denbighshire.gov.uk