Skip to content

“Cem”

a picture showing a man at a supermaket

Cem yn rhoi cynnig ar fanwerthu ac yn werth ei gadw!

Buodd Cem yn gweithio yn y diwydiant adeiladu am fwy na 30 o flynyddoedd. Mae o wedi bod yn labrwr, yn weithiwr sylfeini, yn blastrwr, ac ar un adeg roedd yn gweithio ar safleoedd adeiladu yn yr Almaen.

Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae Cem wedi bod yn cael pyliau o deimlo’n benysgafn a llewygu. Mae’n cymryd meddyginiaeth sy’n golygu na chaiff weithio ar uchder, ac felly methu gweithio ar safleoedd adeiladu. Atgyfeiriodd Cem ei hun at Sir Ddinbych yn Gweithio, lle cofrestrodd ar gyfer prosiect Cymunedau am Waith a Mwy a chael ei fentora gan Tom.

Cysylltodd Tom â Cem i drafod pa fath o swydd y gallai ei gwneud ac a fyddai unrhyw hyfforddiant o gymorth iddo, gan gofio nad oedd gwaith adeiladu yn addas iddo bellach oherwydd ei gyflwr meddygol. Dywedodd Cem yr hoffai weithio yn y diwydiant manwerthu oherwydd y teimlodd y gallai wneud hynny. Roedd ar Cem hefyd eisiau ychwanegu ychydig o dystysgrifau hyfforddiant at ei CV.

Cyflwynodd Tom ychydig o geisiadau am gyllid er mwyn i Cem gwblhau cyrsiau Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle a Chodi a Symud yn Gorfforol ar-lein. Llwyddodd i gwblhau’r ddau gwrs a derbyn y tystysgrifau, gan ddiweddar ei CV i adlewyrchu hynny.

Drwy Workstart, cafodd Tom wybod fod yna leoliad 4 wythnos di-dâl ar gael yn siop The Range yn y Rhyl. Soniodd Tom am hyn wrth Cem, ac roedd Cem yn awyddus iawn i roi cynnig arno. Yn fuan iawn wedyn cafodd Cem ei dderbyn i gwblhau’r lleoliad heb dâl 4 wythnos.

I’w gefnogi, talodd Cymunedau am Waith a Mwy am ddillad addas iddo wisgo ar y lleoliad – fe gafodd drowsus, dau dop polo a phâr o esgidiau du smart. Derbyniodd docynnau bws hefyd.

Roedd Tom yn ffonio Cem bob wythnos i weld sut hwyl yr oedd o’n ei gael, a dywedodd Cem ei fod wrth ei fodd yn The Range a’i fod yn mwynhau cwrdd â phobl a chael mynd allan o’r tŷ. Dywedodd hefyd fod ei les meddyliol wedi gwella ers iddo fod yn weithgar eto. Roedd Cem yn gweithio mewn adrannau gwahanol yn y siop a dywedodd fod aelodau eraill o staff yn gofyn amdano weithiau. Yn ogystal, roedd y rheolwyr wedi gofyn iddo wneud sifftiau ychwanegol, gan gynnwys ar benwythnosau a gŵyl y banc. 

Ar ddiwedd y 4 wythnos dywedodd Cem fod The Range wedi cynnig contract 8 awr yr wythnos iddo a’i fod wedi’i dderbyn, a’i fod, mewn gwirionedd, yn gweithio oddeutu 30 awr yr wythnos ar hyn o bryd.

Ddydd Gwener 11 Mehefin anfonodd Rachel Wood Brignall e-bost at Tom a’r rheolwyr yn dweud bod Cem wedi cwrdd â’r Gweinidog dros Fasnach a Chyflogaeth yn The Range fel rhan o ymweliad yr Adran Gwaith a Phensiynau, a bod Cem wedi sôn wrth y Gweinidog ei fod wedi derbyn cymorth gan Tom a Sir Ddinbych yn Gweithio. Dywedodd hefyd bod erthygl newyddlen yn cael ei chyhoeddi gyda hyn.

Mae unrhyw un sy’n fodlon gweithio’n ddi-dâl am 4 wythnos yn llawn haeddu derbyn swydd â chyflog ar y diwedd, a dyma’n union ddigwyddodd i Cem – da iawn Cem!!