Skip to content

Mr. P

Crynodeb

Cyflogwyd Mr P gan Fyddin Prydain rhwng 1999 a 2008. Ar ôl gadael y Fyddin, aeth Mr P ymlaen i wneud gwaith Diogelwch.

Mae gan Mr P nifer o broblemau iechyd corfforol yn sgil anafiadau a gafodd tra’n gwasanaethu yn y fyddin sydd wedi achosi poen enfawr i Mr P ac roedd o’n ddibynnol ar gadair olwyn am sawl blwyddyn. Yn 2015, cafodd Mr P ddiagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma. Derbyniodd Mr P Lwfans Cymorth Cyflogaeth a Lwfans Annibyniaeth Bersonol yn sgil ei iechyd corfforol a’i iechyd meddwl. Fe atgyfeiriodd Mr P ei hun at Sir Ddinbych yn Gweithio (SdyG) ym mis Ionawr 2018 gan ei fod yn teimlo ei fod yn barod i chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli, gyda’r nod yn y pen draw o gael cyflogaeth am dâl. Yn dilyn cefnogaeth ddwys gan ei fentor, mae Mr P wedi cwblhau sawl cwrs hyfforddi wedi’u hariannu gan (SdyG) ac mae wedi cael mentora rheolaidd, ac mae Mr P bellach wedi sicrhau swydd gefnogi llawn amser gyda CAIS.

Cefndir / Beth yw…?

Roedd Mr P yn llwyddiannus iawn yn y Fyddin ac fe gwblhaodd pum taith ymgyrch, yn cynnwys yn Irac ac Affganistan. Cafodd ei hyfforddi fel heddwas, trafodwr cŵn, a swyddog diogelwch personol ar gyfer uwch swyddogion a chyflenwr storfa feddygol. Gadawodd Mr P y Fyddin yn 2008 gan ei fod yn teimlo ei fod angen newid gyrfa ac roedd o’n barod i adael. Ar ôl gadael y Fyddin, sicrhaodd Mr P waith yn swyddog diogelwch, ond dirywiodd ei iechyd corfforol yn sylweddol gan olygu nad yw bellach yn gallu gweithio yn y maes hwnnw. Mae gan Mr P ddisgiau sydd wedi sychu a disgiau sydd wedi chwyddo ar y fertebriaid, disgiau sydd wedi erydu a ffibromyalgia a achoswyd yn sgil ei wasanaeth yn y fyddin, serch hynny ni ddaeth y symptomau i’r amlwg tan 2011. Roedd Mr P mewn cadair olwyn am dair blynedd oherwydd y boen. Ni chafodd Mr P ddiagnosis anhwylder straen wedi trawma am amser hir. Roedd yna ddigwyddiad pan gafodd Mr P ei arestio am fod ag arf ymosodol mewn man cyhoeddus, cafodd Mr P ddirwy a chafodd ei osod dan y gwasanaeth prawf. Roedd Mr P yn byw gyda’i bartner ar y pryd, a dros y blynyddoedd nesaf dechreuodd ymgysylltu â gwasanaethau cynnal a chafodd ddiagnosis o anhwylder straen wedi trawma yn 2015. Rhwng 2015 a 2018 canolbwyntiodd Mr P ar ei iechyd corfforol a meddyliol, ac ni fu modd iddo weithio yn ystod y cyfnod yma.  

Yr ymgysylltiad…

Fe atgyfeiriodd Mr P ei hun at (SdyG) ym mis Ionawr 2018. Pan ddechreuodd ymgysylltu â Chymunedau am Waith roedd o’n aros am gwrs therapi preswyl chwe wythnos o hyd gydag elusen Combat Stress i gael cefnogaeth gyda’r anhwylder straen wedi trawma a doedd o ddim eisiau dechrau chwilio am gyfleoedd cyn iddo gwblhau ei gwrs, gan fod y cwrs yn hanfodol ar gyfer ei driniaeth a’i gynnydd. Roedd Mr P yn ansicr ynglŷn â’r llwybr gyrfa roedd o eisiau ei ddilyn gan fod ei holl waith blaenorol wedi bod yn waith corfforol iawn ac nid oedd Mr P bellach yn gallu gwneud hyn oherwydd ei iechyd. Felly cwblhawyd gwaith cychwynnol gyda Mr P, gan gynnwys Work Star, er mwyn i Mr P a minnau edrych ar sawl syniad gwahanol a dewisiadau gyrfaol yn drylwyr. Ar ôl trafodaethau helaeth, roedd Mr P yn meddwl yr hoffai gael swydd lle gallai helpu pobl eraill, yn enwedig pobl oedd wedi bod trwy brofiadau tebyg iddo yn y fyddin.

Yna fe aeth Mr P ar gwrs therapi chwe wythnos o hyd yn yr Alban ym mis Awst 2018, ac mae’r cwrs wedi bod yn fuddiol iawn i’w iechyd. Ar ôl iddo ddychwelyd, cafodd gefnogaeth reolaidd unwaith eto gen i. Dywedodd Mr P bod y cwrs gyda Combat Stress wedi bod yn fuddiol iawn a’i fod wedi dysgu sawl dull o ymdopi â’i anhwylder straen wedi trawma, felly mae o’n teimlo ei fod yn gallu rheoli’r anhwylder yn well. Ers dychwelyd o’r cwrs, roedd Mr P yn bendant ei fod eisiau edrych ar waith cefnogi, yn enwedig gyda chyn filwyr. Oherwydd ei iechyd a gan ei fod wedi bod allan o waith am gyfnod o amser, penderfynodd Mr P a minnau edrych ar wirfoddoli i ddechrau i gael profiad a gwybodaeth am y maes a fyddai’n arwain at waith am dâl yn y pendraw gobeithio.

Ar ôl dychwelyd o’r Alban, fe chwalodd perthynas Mr P gyda’i bartner, felly bu’n rhaid iddo symud i mewn at ei rieni. Felly, fe gefnogais Mr P i gysylltu â thîm tai yng Nghyngor Sir Ddinbych i wneud cais am dŷ, ac fe gefnogais Mr P i lenwi’r ffurflen asesiad meddygol. Dywedais wrth Mr P bod angen iddo gysylltu â’i Feddyg Teulu a Combat Stress i gael tystiolaeth i gefnogi ei gais, a dyna a wnaeth o. Yna rhoddwyd enw Mr P ar y rhestr aros am dŷ.

Er mwyn cael gwaith gwirfoddoli, fe gysylltais â sefydliadau gwahanol sy’n cefnogi milwyr i ddod o hyd i gyfleoedd.  Fe gysylltais â SAAFA, Elusen y Lluoedd Arfog i holi pa gyfleoedd oedd ganddynt, ac fe roddais fanylion Mr P iddynt.  Cafodd Mr P apwyntiad cychwynnol i drafod y cyfleoedd a chafodd ffurflen gais i’w llenwi. Fe gefnogais Mr P i lenwi’r ffurflen gais gwirfoddoli, ond gan fod Mr P wedi datgelu ei hanes troseddol, cafodd ei wrthod.

Cefais wybodaeth gan Swyddog Ymgysylltu Sir Ddinbych yn Gweithio am Woody’s Lodge, grŵp cefnogaeth newydd i gyn filwyr. Dangosais yr wybodaeth yma i Mr P ac fe wnaethom gysylltu â nhw i weld a oeddynt angen unrhyw gefnogaeth, ac mi oedden nhw, felly mynychodd Mr P yr wythnos wedyn i weld sut le oedd o. Roedd Mr P yn bresennol yn y grŵp fel mynychwr i ddechrau, ond fe siaradodd â’r trefnwyr a dweud y byddai ganddo ddiddordeb cefnogi’r grŵp fel gwirfoddolwr, ac roedden nhw’n hapus i Mr P wneud hynny, felly fe aeth ati i ymgymryd â rôl gwirfoddoli pan fyddai’n mynychu. Byddai Mr P yn siarad â chyn filwyr oedd yn mynychu’r grŵp gan wneud iddynt deimlo’n gyfforddus ac yn eu cefnogi i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau oedd ganddynt. Roedd y gwaith gwirfoddoli yma’n fuddiol iawn i Mr P, gan gadarnhau ei fod eisiau dilyn gyrfa mewn gwaith cefnogi.

Gan fod gwaith cefnogi yn newid gyrfa i Mr P, roedd o angen cwblhau’r hyfforddiant er mwyn cynyddu ei wybodaeth o’r maes a gwella ei ragolygon cyflogadwyedd. Mynychodd Paul y cyrsiau canlynol: Diogelu Oedolion a Phlant Cymru Gyfan, Cymorth Cyntaf Ar Frys yn y Gweithle, Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle a chwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Cafodd y cwbl eu hariannu gan (SdyG) a Chwrs Lifeworks am ddim RBLI.  Ar ben hynny, yn ystod sesiynau mentora, fe wnaethom drafod agweddau gwahanol o waith cefnogi, er enghraifft; cwblhau asesiadau risg, ffactorau risg gwahanol y gallai eu hwynebu, sefyllfaoedd gwahanol a sut y byddai’n mynd i’r afael â’r rhain a llenwi’r cynlluniau cefnogi.

Ar ôl mynychu nifer o gyrsiau hyfforddi a sesiynau mentora rheolaidd, roedd Mr P yn teimlo ei fod yn barod i ddechrau ymgeisio am swyddi â chyflog, ac fe gefnogais o i wneud hynny.

Arferion Da a Rannwyd / Gwersi a Ddysgwyd / Canlyniadau

Mae Mr P bellach wedi cael fflat gyda dwy ystafell wely trwy Gyngor Sir Ddinbych ac mae wedi ymgartrefu’n dda. Gan fod Mr P wedi newid ei gyfeiriad, bu’n rhaid iddo newid drosodd i Credyd Cynhwysol. Nid oedd y broses hon yn un syml felly fe gefnogais Paul i gael gafael ar gyngor arbenigol gan Cyngor ar Bopeth a’r Ganolfan Byd Gwaith, a chafodd hyn ei sortio. Cafodd Mr P ei gefnogi gan Cyngor ar Bopeth i wneud cais i Gronfa Cymorth Dewisol ar gyfer eitemau cartref i’w eiddo newydd, fe ysgrifennais lythyr i gefnogi ei gais, a bu Mr P yn llwyddiannus felly bu modd iddo ddodrefnu ei eiddo newydd.  

Fe gefnogais Mr P i chwilio am nifer o gyfleoedd swyddi a mynychais Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio. Yn y ffair swyddi fe wnaethom siarad gyda CAIS am swydd wag Gweithiwr Cefnogi Tenantiaid, ac fe gawsom ffurflen gais. Yr wythnos honno, fe gefnogais Mr P i lenwi’r ffurflen gais a bu’n llwyddiannus yn cael cyfweliad. Fe wnaethom siarad am dechnegau cyfweliad a chwestiynau cyfweliad posibl er mwyn paratoi Mr P ar gyfer ei gyfweliad cyntaf mewn dros ddegawd.

Mynychodd Mr P y cyfweliad a bu’n llwyddiannus yn cael swydd gweithiwr cefnogi llawn amser mewn prosiect tai â chymorth newydd i bobl oedd â hanes o fod yn ddigartref a cham-drin cyffuriau neu alcohol. Mae Mr P bellach yn aros am ei wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i ddod nôl er mwyn iddo gael dyddiad cychwyn. Fe soniodd Mr P am ei hanes troseddol gyda rheolwr y prosiect cyn i’w wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gael ei anfon, ac mae wedi cael gwybod nad ydynt yn credu y bydd hyn yn rhwystr er mwyn iddo allu symud ymlaen.

Mae Mr P wedi ymgysylltu’n dda iawn â Chymunedau am Waith ac roedd yn benderfynol o symud ymlaen â’i fywyd nôl mewn i gyflogaeth am dâl. Roedd gan Mr P nifer o sgiliau eisoes, ond yn sgil dirywiad ei iechyd corfforol a meddyliol, fe blymiodd hyder Mr P. Dwi’n credu bod taith Mr P yn brawf o’r ffaith os ydi unigolyn yn ymgysylltu â nifer o sefydliadau cefnogol, mae’n golygu y gellir datblygu ymagwedd gyfannol ac fe allant wella pob agwedd ar eu bywyd, ac mae hyn wedi rhoi hwb enfawr i hyder Mr P, a mae wedi galluogi iddo gyflawni ei nod o gael gwaith cyflogedig. Mae Mr P wedi bod yn amyneddgar ac mae wedi sicrhau bod ganddo’r gefnogaeth roedd ei angen ar gyfer ei iechyd meddwl, ac fe fynychodd gyrsiau wedi’u hariannu i gynyddu ei sgiliau a monitro rheolaidd, ac rydw i bellach yn credu bod ei lwybr yn ôl i gyflogaeth yn gynaliadwy at y dyfodol.