Skip to content

‘Mr. P’

Cyfeiriwyd Mr P at y prosiect Cymunedau am Waith gan ei Hyfforddwr Gwaith o’r Ganolfan Byd Gwaith yn Chwefror 2020 i edrych ar wahanol ddewisiadau gyrfa, roedd wedi cael ambell i swydd yn y gorffennol ac roedd ganddo ddiddordeb mewn gyrfa ym maes TGCh. Er bod Mr P yn cwblhau nifer o gyrsiau ar-lein i gynyddu ei wybodaeth, roedd yn cael trafferth cael y profiad cyfatebol.  Ychydig ar ôl ei atgyfeiriad at y prosiect, bu i Lywodraeth y DU weithredu cyfyngiadau cyfnod clo yn dilyn Covid19 a oedd yn bosib o amharu ar unrhyw gynnydd a wnaed, ond bu i Mr P barhau i weithio yn galed ac mae bellach y gwirfoddoli gyda gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio fel rhan o’r tîm gweinyddol yn gwneud dyletswyddau cyhoeddusrwydd a marchnata.

Pan gyfeiriwyd Mr P fe’i dyrannwyd i’r prosiect Cymunedau am Waith i gael cefnogaeth 1-1 gan Fentor Cyflogaeth. Fel ei fentor, cymerais amser i siarad ag o wyneb yn wyneb i ddarganfod pa rwystrau oedd yn eu hwynebu wrth gael cyflogaeth. Dywedodd Mr P fod ganddo Aspergers ac roedd ganddo ddiffyg hyder a gor-bryder. Roedd yn amlwg y byddai ceisio sicrhau lefel uwch o hyder ar gyfer Mr P yn hanfodol ar gyfer ei siwrnai i gyflogaeth felly bu i ni ddechrau cwblhau tasgau datblygu hyder a’u trafod yn fanwl. Gofynnais i Mr P ysgrifennu cymaint o’i sgiliau a phosib. Cafodd Mr P drafferth gwneud hyn ac nid oedd yn adnabod ei sgiliau ei hun, felly bu i ni gydweithio i adnabod bob un a diweddu efo rhestr dda iawn! Gofynnais i Mr P hefyd gwblhau 7 gweithgaredd bob dydd ble fyddai’n siarad gyda phobl nad oedd yn eu hadnabod gan fod hyn yn rhwystr mawr iddo ac ar ôl tuag wythnos roedd yn gallu cwblhau’r rhan fwyaf o’r tasgau hyn heb broblemau.

Yn anffodus, wrth i ni ddechrau cael llwyddiant, bu i Covid-19 daro Cymru a erfyniwyd ar y cyhoedd i aros gartref i atal lledaenu’r feirws. Golyga hyn bod staff y prosiect bellach yn gweithio o gartref ac na allai cefnogaeth wyneb yn wyneb barhau, fodd bynnag nid oedd hyn yn golygu y byddai’r gefnogaeth yn dod i ben. Cysylltais â Mr P i’w hysbysu ynglŷn â’r newid yn y gwasanaeth a dweud y byddai ein hapwyntiadau yn cael eu cynnal yn bennaf dros y ffôn ac e-bost. Parhaodd Mr P i gydymffurfio’n dda ac roedd wedi ei ysgogi i weithio tuag at ei nod o gyflogaeth.

Bu i mi barhau i anfon nifer o dasgau gwahanol ato gan fod ein cefnogaeth dal yn newydd ac roeddwn yn ymwybodol fod Mr P angen mwy o gymorth i gynyddu ei hyder. Cofrestrais Mr P ar gwrs gyda Chydlynydd Addysg a Hyfforddiant Sir Ddinbych yn Gweithio a hefyd gosodais amrywiaeth o dasgau ysgogi, paratoi ar gyfer cwestiynau cyfweliad a diweddaru ei CV a phroffiliau safleoedd chwilio am swyddi i safon uchel.

Wrth i’n sesiynau cefnogaeth barhau, bu i ni ddechrau edrych ar waith gwirfoddoli posib a chyfleoedd gyda thâl a ellir eu gwneud gartref. Edrychwyd ar rai posibiliadau megis arwyr digidol a ffrindiau ffôn gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, yn ogystal â rhai swyddi gweinyddol yn y GIG, fodd bynnag roedd yr ymateb yn gyfyngedig.

Roedd Mr P yn gynyddol awyddus i ddatblygu ei sgiliau ymhellach, felly fe’i cyflwynais i un o’r Cydlynwyr Cyflogaeth yn nhîm Sir Ddinbych yn Gweithio dros fideoalwad. Bu i’r Cydlynydd Cyflogaeth siarad am sut y gallai gefnogi Mr P yn ogystal â minnau, a’r canolbwynt cyntaf oedd technegau cyfweliad a pharatoi ar eu cyfer. Gall paratoi ar gyfer cyfweliad gyda rhywun sydd ddim yn fentor fod yn fuddiol gan fod y profiad yn fwy realistig ac yn cynnig persbectif newydd gan rywun sydd ddim yn adnabod yr unigolyn mor dda a fyddai eu mentor.

Yn fuan cafwyd cyfle yn Swyddfa Sir Ddinbych yn Gweithio ar gyfer gwirfoddolwr cyfryngau cymdeithasol ym Medi 2020. Mynegodd Mr P ei ddiddordeb mewn cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn flaenorol a nododd fod ganddo dudalennau cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo digwyddiadau cerddorol. Gyda hyn mewn cof roedd eisiau cael ei ystyried ar gyfer y swyddogaeth hon, felly cafodd gyfweliad cyn-sgrinio. Ynghyd â’r Cydlynydd Cyflogaeth, cwblhawyd gwaith paratoi penodol ar gyfer y cyfweliad ac roedd Mr P yn llwyddiannus! Dyddiad cychwyn Mr P oedd Hydref 2020 a disgwylir iddo barhau hyd Ebrill 2021, mae’n aelod da o’r tîm ac er ei fod yn dawel, mae’n mynychu’r swyddfa yn rheolaidd. Yn ystod y cyfnod atal byr, bu i Mr P gadw cysylltiad gyda’r tîm nes oedd yn gallu mynd i’r swyddfa eto.

Mae’r lleoliad gwirfoddoli gyda Sir Ddinbych yn Gweithio yn caniatáu i Mr P gael profiad gwerthfawr o fewn swyddfa, datblygu ei sgiliau mewn marchnata a chyfryngau cymdeithasol ac mae’n gallu datblygu ei sgiliau TGCh, sydd oll yn sgiliau trosglwyddadwy a all arwain at gyflogaeth gyda thâl. Yn ystod ei leoliad, bydd Mr P yn parhau i gael cefnogaeth gennyf i a’i fentor a gan y tîm ehangach yn Sir Ddinbych yn Gweithio yn y swyddfa i sicrhau ei fod yn cael y profiad gorau posib. Bydd hefyd yn cwblhau cymhwyster mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid a Chyfryngau Cymdeithasol ochr yn ochr â’r lleoliad.

Mae Mr P wedi dangos penderfyniad ac ysgogiad gwych yn ystod ei amser yn cael ei gefnogi gan Gymunedau am Waith. Mae ei fentor wedi ei gefnogi ar gyflymder roedd yn gyffyrddus ag o ac roedd wedi addasu’r gefnogaeth yn ystod y pandemig i sicrhau y gallai Mr P barhau i ddatblygu tuag at ei nod o gyflogaeth.    

Datganiad gan Mr P:

“Gan fod gennyf aspergers a diffyg hyder/gor-bryder cymdeithasol am nifer o flynyddoedd rwyf wedi ei chael yn anodd dod o hyd i waith neu gynnal swydd. Bu i mi oresgyn y gor-bryder cymdeithasol yn y diwedd ond roedd fy hyder dal yn isel. Bu i’r ganolfan waith fy rhoi mewn cysylltiad â Sir Ddinbych yn Gweithio sydd wedi bod o gymorth mawr i mi.

Rwyf wastad wedi bod eisiau gweithio mewn swyddfa ond nid oedd gennyf y profiad na’r cymwysterau ac roedd diffyg hyder yn rhwystr. Bu i mi osod her i mi fy hun heb wybod sut i’w chyflawni ond gan wybod os rwy’n ymdrechu byddaf yn ei chyflawni.
Dyfyniad gwych gan Napoleon Hill (success through a positive mental attitude, think & grow rich a llyfrau gwych eraill) yr hoffwn ei rannu sydd wedi fy ysbrydoli.
“Whatever the mind of man can conceive and believe, it can achieve”

Ar ôl cael ennill cymwysterau ar-lein roedd fy hyder wedi cynyddu ychydig a fy ngham nesaf oedd dod o hyd i waith gwirfoddoli i gael y profiad a chynyddu fy hyder i baratoi ar gyfer cael swydd llawn amser.

Bu i fy mentor Cymunedau am Waith fy helpu i addasu fy CV tuag at waith swyddfa a dechreuais gwrs hyder sydd wir wedi fy helpu i weld fy hunanwerth a beth rwy’n gallu ei wneud. Y sypréis gorau i ddod nesaf oedd cael cynnig gwirfoddoli ym maes gweinyddol/cyfryngau cymdeithasol gyda Sir Ddinbych yn Gweithio.
Mae wedi bod yn brofiad gwych hyd yma ac mae fy hyder wedi cynyddu’n sylweddol, rwyf wir yn mwynhau’r gwaith a’r peth gorau yw fy mod yn cael gweithio gyda’r peth rwyf fwyaf angerddol tuag ato, cyfrifiaduron, ac wedi gwneud i mi sylweddoli mai gwaith gweinyddol/swyddfa yw beth rwyf eisiau ei wneud. Diolch yn fawr i fy mentor a Sir Ddinbych yn Gweithio am y gefnogaeth. Nawr fod gennyf y cymwysterau, profiad cynyddol ac mae fy hyder yn parhau i gynyddu, rwy’n sicr o gyrraedd fy nod o waith gweinyddol/swyddfa llawn amser.