Mae ‘H’ yn rhiant sengl i ddau o blant ifanc. Cafodd ei rhoi mewn cysylltiad â Chymunedau am Waith a Mwy i gael cefnogaeth i’w helpu hi i symud tuag at gael gwaith. Roedd hi hefyd yn awyddus i gwblhau ychydig o hyfforddiant i helpu i gryfhau ei CV a cheisiadau am swyddi yn y dyfodol. Mae H yn unigolyn ifanc a chwrtais iawn sydd wedi bod yn bleser ei chefnogi. Mae hi wedi cadw mewn cysylltiad bob amser ac wedi dod i apwyntiadau ar amser.
Mynegodd H ei hawydd o gael gyrfa mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol oherwydd ei bod hi’n teimlo mai dyma ble mae ei chryfderau a’i thosturi. Roedd Tom yn gallu cynorthwyo H i wneud cais ar gyfer rhaglen Camu mewn i Waith y GIG (Cylchoedd Mentora) sy’n cynnwys sesiynau grŵp ar-lein a gaiff eu cyflwyno drwy MS Teams, ac yna ymgymryd â phrofiad gwaith mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lleol. Trefnodd Tom bod H yn cael benthyg gliniadur Chromebook er mwyn iddi allu bod yn bresennol yn y sesiynau, oherwydd heb y gliniadur ni fyddai hi wedi gallu gwneud hynny. Tua’r un amser roedd H hefyd wedi cofrestru ar gwrs hyfforddi symud a chodi pobl ar-lein i roi gwybodaeth a dealltwriaeth iddi o hyn fel ei bod hi’n gallu ei wneud yn gywir pan fo angen mewn swydd.
Roedd H yn rhagweithiol iawn ei hun a chwblhaodd dros 20 o dystysgrifau ar-lein yn ei hamser rhydd ar ôl i’w phlant fynd i’r gwely, a buodd mor garedig â rhoi copïau o’r tystysgrifau hyn i Tom.
Rai wythnosau’n ddiweddarach rhoddodd Tom wybod i H am raglen ‘Get Into Social Care’ Ymddiriedolaeth y Tywysog a oedd hefyd i fod i gael ei chyflwyno dros MS Teams. Manteisiodd H ar y cyfle o gael cynnig lle ar y rhaglen hon, a mynychodd hi drwy ddefnyddio’r Chromebook. Cyn bo hir bydd H’n ymgymryd â gwaith banc gyda’r GIG yn rhan o raglen Cylchoedd Mentora mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n debygol o fod yn Ysbyty Glan Clwyd neu leoliad yn y gymuned.
Cafodd H gymorth i gael ffôn newydd gan fod ei ffôn ei hun yn hen iawn ac nid oedd apiau’n fodlon llwytho ar y sgrin, ac ni fyddai’n canu’n aml. Felly, prynwyd ffôn newydd iddi a oedd yn golygu y gallai ddychwelyd y Chromebook ar ôl deufis ac mae hi bellach yn gallu defnyddio’r ffôn ar gyfer llawer o bethau na allai ei wneud cyn hynny. Nid oedd hi’n gallu fforddio prynu ffôn newydd.
Ddechrau mis Medi, ymgeisiodd H am swydd (drwy ei ffôn newydd) gyda siop The Range yn y Rhyl. Aeth H i gyfweliad ddydd Gwener 2 Medi a chafodd gynnig swydd yno am 20 awr yr wythnos am 3 mis, ac yna ar ôl 3 mis y gobaith yw y gallai efallai weithio’n llawn amser. Mae hyn yn golygu y dylai hi allu cwblhau ei phrofiad gwaith banc gyda Chylchoedd Mentora’r GIG hefyd.
Yn garedig iawn, rhannodd H y canlynol – “Mae’r prosiect Cymunedau am Waith a Mwy wedi fy helpu i’n enfawr! Roeddwn i dan straen a phwysau ac yn ansicr o ba yrfa yr oeddwn i eisiau ei dilyn pan ddechreuais i. Roedd yn syml ers cysylltu â nhw fod gen i gefnogaeth gan un o’r hyfforddwyr gwaith, Tom, sydd wedi bod yn anhygoel o ran gwneud i mi deimlo’n gyfforddus i fynegi fy newisiadau gyrfa heb feirniadaeth. Roeddwn i wedi cofrestru ar Raglen Cylchoedd Mentora’r GIG ac roedd fy ffôn yn hen iawn ac nid oeddwn yn gallu prynu un newydd. Helpodd y prosiect yn syth ac roeddwn i’n gallu cael ffôn newydd sbon a pharhau â fy nghwrs GIG. Rydw i wedi ennill dros 30 o dystysgrifau bellach pan ddechreuais heb unrhyw un.
Mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi bod yn gymaint o help i mi o ran fy nghadw i’n brysur a fy helpu i gyrraedd ble yr ydw i nawr, drwy fenthyg gliniadur i mi er mwyn i mi allu cwblhau fy nghyrsiau ar-lein. Ni fyddwn wedi gallu fforddio bod ble yr ydw i nawr na bod â’r hyder sydd gen i oni bai am y prosiect. Rydw i bellach yn gweithio’n rhan amser mewn swydd yr ydw i’n teimlo’n fwyaf hyderus tra fy mod hefyd yn gwneud gwaith banc yn ysbyty Glan Clwyd sydd â hyfforddiant yn dal i fynd rhagddo. A byddwn yn awgrymu’n fawr i unrhyw un sydd efallai’n teimlo’n ansicr o ran ble i fynd nesaf pan fo gennych chi blant neu am unrhyw reswm arall, i gysylltu.”