Mae ffoadur proffesiynol o Wcráin yn derbyn cefnogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio i gael mynediad i Leoliad Cynllun Dechrau Gwaith am 3 mis mewn caffi lleol, a hynny gyda gwerth ychwanegol ‘Cymorth Mewn Gwaith’ a ddarperir gan y Tîm Dechrau Gwaith.
Bu A mewn Ffair Swyddi oedd yn cael ei chynnal gan Sir Ddinbych yn Gweithio yn Neuadd y Dref Y Rhyl ym mis Mai 2022.
Cyflwynodd ei hun i’r staff ac eglurodd ei sefyllfa bresennol. O ganlyniad i’r gwrthdaro presennol yn Wcráin gorfodwyd A i adael y wlad a theithio i Wlad Pwyl gyda’i mab 15 oed.
O dan raglen ailsefydlu Wcráin, cafodd A ei pharu ag aelwyd leol. Teithiodd o Wlad Pwyl gyda’i mab gan gyrraedd Y Rhyl ym mis Ebrill.
Mae A bellach yn mynd i’r coleg 2 ddiwrnod yr wythnos gan gymryd rhan yn rhaglen haf ESOL. Eglurodd ei bod yn awyddus iawn i gael gwaith, a’i bod wedi gweithio ers gadael ysgol. Yn yr Wcráin arferai weithio fel Seicolegydd yn cefnogi dysgwyr mewn ysgol. Gofynnodd A am swydd lle byddai’n cyfathrebu’n rheolaidd ag eraill megis caffi neu waith manwerthu i gael cymorth ar gyfer ei sgiliau iaith. Ar ôl darganfod sut y gall Sir Ddinbych yn Gweithio ei chefnogi, aeth ati i hunangyfeirio at Sir Ddinbych yn Gweithio.
Neilltuwyd mentor cyflogaeth A i gynnig cefnogaeth iddi gyflawni ei nodau. Cwblhawyd y broses gofrestru gyda’i mentor a gyda chymorth cyfieithydd. Yn ei hapwyntiad cyntafcwblhaodd A waith papur y broses gofrestru a darparodd dystiolaeth fod ganddi ganiatâd i weithio yn y DU. Bu’r cyfieithydd hefyd yn cynorthwyo A a’i mentor i gwblhau ei CV gan gynnwys ei holl gymwysterau a chyn swyddi yn y gorffennol. Roedd yn amlwg yn eithaf cyflym ei bod eisiau gweithio ar frys gan ei bod wastad wedi gweithio yn yr Wcráin ac roedd ganddi sgiliau trosglwyddadwy rhagorol gyda phersonoliaeth allblyg a chyfeillgar iawn.
Roedd ei mentor yn ymwybodol o leoliad Cynllun Dechrau Gwaith am 3 mis mewn caffi lleol a fyddai’n rhoi’r cyfle delfrydol iddi. Trafodwyd y cyfle gydag A ac roedd hi’n awyddus iawn i ymgeisio.
Gwnaed apwyntiad gyda swyddog lleoliad y Cynllun Dechrau Gwaith i drafod y lleoliad a’r broses ymgeisio. Yn ystod y cyfarfod gydag A, gwnaed y canlynol:
- Rhannwyd ac esboniwyd y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn.
- Trefnwyd ‘Cwrdd â’r Cyflogwr’ mewn ffordd anffurfiol iawn lle gallai A ddangos ei set sgiliau a gofyn cwestiynau.
- Cwblhawyd y ffurflen gais gyda mentor cyflogaeth, a’i chyflwyno.
- Cynhaliwyd cyfweliad a chynigiwyd y lleoliad.
Gofynnodd y cyflogwr i A gwblhau Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 2 cyn dechrau yn ei swydd newydd. Llwyddodd mentor cyflogaeth A i sicrhau bod y cwrs hwn yn cael ei ariannu a chynorthwyodd A i gael mynediad ato ar-lein. Aeth A drwy’r cwestiynau gan ddefnyddio ap cyfieithu ar ei ffôn a phasiodd y cwrs ar ei hymgais gyntaf!
Derbyniodd A arian i brynu dillad addas ac esgidiau cyfforddus ar gyfer ei dyletswyddau. Aeth ei mentor cyflogaeth i siop ddillad leol er mwyn iddi allu dewis a thrio ei dillad gwaith newydd. Byddai’r cyflogwr yn darparu ffedog, tiwnig a net gwallt.
Tra bydd ar leoliad bydd A yn cael cymorth parhaus i sicrhau ei bod yn cael profiad gwaith / lleoliad cadarnhaol ac ystyrlon, bydd hyn yn cynnwys ei chefnogi i wneud cais am swyddi gwag addas wrth iddynt godi yn yr ardal leol. Bydd ganddi Fentor enwebedig i droi ato/i os bydd ganddi unrhyw bryderon, bydd yn gweithredu fel eiriolwr, a bydd hyn yn ei dro yn sicrhau bod y lleoliad yn addas.