Skip to content

Goresgyn Bwlio a Gorbryder i Sicrhau Swydd

a picture showing two girls talking about another

Crynodeb

Cyfeiriwyd H at ein cymorth drwy Gyrfa Cymru. Roedd yn dioddef o orbryder drwg ac wedi cael trafferth mewn lleoliadau addysg oherwydd bwlio. Ar ôl cael ei gyfeirio at Cymunedau am Waith drwy Gyrfa Cymru, mae H wedi dod ymlaen yn wych ac wedi sicrhau swydd yn Papa Johns, y mae’n edrych ymlaen yn arw at gychwyn arni.

Roedd H wedi cwblhau Lefel 1 mewn Datblygu Meddalwedd, ond oherwydd problemau gyda’r coleg, ni chafodd barhau ar y cwrs Lefel 2. Cafodd H ei fwlio yn yr ysgol ac o ganlyniad, nid oes ganddo fawr o hunan-barch na hyder yn ei allu. Pan gyfeiriwyd H at ein gwasanaeth, trefnwyd cyfarfodydd yn y ganolfan Gyrfa Cymru leol, lle’r oedd yn teimlo’n gyfforddus. Nid oedd H wedi bod yn gwneud ceisiadau am swyddi gan nad oedd ganddo syniad lle i ddechrau arni.

Ennyn diddordeb…

Er mwyn ennyn diddordeb H yn y prosiect, fe ddechreuom ni gyfarfod yn y ganolfan Gyrfa Cymru leol drwy un o’u gweithwyr i gynnig cymorth. Galluogodd hyn i H fy nghyfarfod i mewn man lle’r oedd yn teimlo’n gyfforddus ac yn ddigynnwrf tra’r oedd yn dod i fy adnabod i. Roedd H yn mwynhau unrhyw beth i’w wneud â chyfrifiaduron, ond hefyd yn mwynhau treulio amser yn yr awyr agored yn ei ardd. Nid oedd H yn gwybod beth roedd o eisiau ei wneud ac nid oedd ganddo unrhyw hyder, felly roedd y syniad o weithio yn ei lethu braidd, ond roedd yn gwybod bod angen iddo ddechrau ennill arian i helpu ei Fam. I ddechrau, fe wnaethom ni ei gofrestru ar gyfer CC gan y byddai hyn yn rhoi rhywfaint o arian iddo yn ogystal â chymorth ychwanegol i chwilio am waith. Fe wnes i ei helpu gyda’r cais a mynd i’w gyfarfodydd cyntaf gydag ef fel nad oedd rhaid iddo fynd ar ei ben ei hun.

Ar ôl trefnu iddo gael CC, fe ddechreuom ni siarad am beth yr hoffai H ei wneud. Fe soniodd bod ei frawd yn dilyn cwrs gan holi a fyddai modd iddo yntau ei ddilyn hefyd. Fodd bynnag, bu i ni ganfod bod H yn rhy hen i’r cwrs penodol hwnnw ac nid oedd unrhyw beth tebyg ar gael heb fynd i’r coleg, oedd yn ormod i H oherwydd y bwlio blaenorol. Arweiniodd hyn at i ni geisio dod o hyd i gyrsiau eraill, ond yn anffodus, doedd yna ddim ar gael oedd yn addas i H. Felly fe ddechreuom ni ganolbwyntio ar waith. Aethom ati i lunio ei CV gyda’n gilydd, gan sicrhau bod ei holl sgiliau’n gyfredol a’i fod yn rhoi argraff dda ohono pan oedd yn gwneud cais am swyddi. Yna, fe ddechreuom ni wneud ceisiadau am swyddi; doedd dim ots gan H pa fath o swyddi oedden nhw, cyn belled â’u bod yn lleol iddo ac yn rhywbeth oedd o ddiddordeb iddo.

Ochr yn ochr â cheisio am swyddi, fe ddechreuom ni edrych ar ddewisiadau eraill, gan gynnwys y Cynllun Dechrau Gwaith. Cododd cyfle gyda’r adran TG drwy’r Cynllun Dechrau Gwaith. Gyda chymhwyster coleg blaenorol H, roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y swydd hon, felly fe ddechreuom ni ar y broses o wneud cais. Buom yn cydweithio i baratoi H ar gyfer y cam sgrinio cyn cyflogi a’r cyfweliad. Aeth H am y cyfweliad, ac er na chafodd o swydd gyflogedig, fe lwyddodd i gael lleoliad di-dâl o fewn yr adran TG. Aethpwyd ati i drefnu hyn, ond oherwydd problemau staffio yn yr adran TG, bu’n rhaid gohirio’r cyfle. Roedd hyn yn ergyd i H, ond roedd yn deall bod y cyfle yn dal i fod ar gael iddo. Arweiniodd hyn at i ni edrych ar ddewisiadau eraill i weld pa gyfleoedd eraill oedd yn codi. Gan ei bod bellach yn fis Ionawr, roedd llawer o’r parciau carfanau lleol yn dechrau ar eu hymgyrchoedd recriwtio ar gyfer tymor y gwyliau. Roedd gan H ddiddordeb mawr mewn rhai o’r cyfleoedd hyn, ac fe gawsom ni drafodaeth am y gwahanol swyddi allai fod ar gael. Fe eglurais i hefyd sut y mae’r parciau gwyliau’n cynnal eu proses recriwtio a’u bod yn tueddu i gael diwrnod recriwtio i bawb, gyda chyfle i siarad â nifer o’r adrannau sydd â swyddi ar gael.

Roedd H yn ansicr o’r broses hon, ond ni wnaeth ei fwrw oddi ar ei echel, ac fe benderfynodd fynd i’r diwrnod recriwtio. Fe gawsom ni drafodaeth am y swyddi ac roedd gan H ddiddordeb yn y swyddi glanhau, derbynfa ac arlwyo a fyddai ar gael. Aeth H draw ar ei ben ei hun gyda’i CV ac yn gwisgo ei ddillad cyfweliad; roedd hwn yn gam enfawr i H fynd i wneud rhywbeth newydd ar ei ben ei hun. Ar ôl y diwrnod recriwtio, fe siaradais i â H ac fe eglurodd bod y diwrnod wedi mynd yn dda a’i fod yn falch ohono’i hun am fynd. Bu’n siarad â rhywun am y swyddi yn y dderbynfa, y swyddi gyda Papa Johns a’r swyddi y tu ôl i’r bar.

Ar ôl aros wythnos neu ddwy, fe gysylltodd Papa Johns â H i ofyn iddo ddod i mewn am gyfarfod arall; fe aeth, ac fe gynigion nhw swydd iddo. Roedd H wedi gwirioni’n lân ac yn edrych ymlaen yn arw am gael cychwyn gweithio. Roedd H mor falch ei fod wedi llwyddo i fagu hyder i fynd i’r diwrnod recriwtio ar ei ben ei hun, a gyda chymorth gen i i baratoi ar gyfer y cyfweliad a chael dillad cyfweliad yr oedd H yn teimlo’n gyfforddus ynddyn nhw, fe lwyddodd i gael y swydd.

Canlyniadau

Pan ddechreuais i weithio gyda H, roeddwn yn credu y byddai ein taith gyda’n gilydd wedi cymryd mwy o amser oherwydd yr holl rwystrau yr oedd yn eu hwynebu. Fodd bynnag, gyda dyfalbarhad ac ysgogiad, mae H wedi rhagori ar ei ddisgwyliadau ei hun hyd yn oed, ac wedi llwyddo i gael swydd. Mae H wedi goresgyn ei orbryder o amgylch pobl a lleoedd newydd ac wedi gweithio’n arbennig o galed ar bob tasg a roddwyd iddo. Byddai’n ymarfer ei dechnegau cyfweliad drosodd a throsodd i wneud yn siŵr ei fod yn teimlo mor hyderus ag y gallai wrth fynd am gyfweliad. Mae’r astudiaeth achos hon wedi dangos bod dyfalbarhad ac ysgogiad yn chwarae rhan allweddol mewn goresgyn rhwystrau. Drwy beidio â gadael i’r rhwystrau ei drechu, roed H yn dal ati i godi ar ei draed a symud ymlaen nes iddo gyrraedd ei nod o gael gwaith.