Dydd Iau Ebrill 7fed, 9.30 – 14.00
Coleg Llandrillo y Rhyl, 147 Ffordd Cefndy, Y Rhyl, LL18 2HG
P’un a ydych yn breswylydd neu’n fusnes lleol, mae’r digwyddiad hwn am ddim ac yn cynnig rhywbeth i bawb! Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd Gemau Olympaidd Sgiliau er mwyn arddangos eu sgiliau sector. Bydd cyflogwyr lleol yn Rhyl College yn siarad am gyfleoedd gyrfa.
Mae Grŵp Tasg a Gorffen Bwrdd Datblygiad Cymunedol y Rhyl yn falch o gael cefnogi GLLM gyda’u Gemau Olympaidd Sgiliau a Ffair Gyrfaoedd ddydd Iau 7 Ebrill yng Ngholeg y Rhyl.
Beth yw’r digwyddiad?
Pwrpas y digwyddiad hwn yw dod â phobl y Rhyl at ei gilydd a rhoi cyfle iddynt ddarganfod campws y Rhyl Coleg Llandrillo ond hefyd i gyfarfod â chyflogwyr a sefydliadau lleol neu gael cyngor ar brosiectau proffesiynol.
Pwy ddylai fynychu?
- Myfyrwyr presennol sy’n astudio yn y coleg
- Pobl sydd â diddordeb mewn dilyn y cyrsiau sydd ar gael
- Cyflogwyr/busnesau i hyrwyddo’r mathau o swyddi sydd ar gael i fyfyrwyr pan fyddant wedi cwblhau eu cwrs
- Gwasanaethau cefnogol i ddangos y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr a busnesau
Diddordeb mewn Arddangos?
Mae GLLM yn cynnig lle i arddangoswyr yn y Cyntedd o 9am a darperir brecwast, cinio a lluniaeth. Gall yr arddangoswyr fod yn fusnesau a phartneriaid ac mae hyn yn cynnwys unrhyw rai o wasanaethau’r cyngor sydd â diddordeb mewn mynychu.
Sut ydw i’n archebu?
Os oes arnoch eisiau gweld sut fath o gyrsiau sydd ar gael, galwch heibio ar y diwrnod. Os oes arnoch eisiau stondin, cysylltwch â:
Salah Berdouk
Pennaeth Cynorthwyol Diwydiannau Cyfrifiadura a Chreadigol, Adeiladu a Pheirianneg
Coleg Llandrillo
Ffordd Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn, LL28 4HZ
Ffôn: 01492 546666 Est 1981