Canolfan Gymunedol Eirianfa, Dinbych – Ebrill 4ydd (9am – 3pm)
Beaches Hotel, Prestatyn- Ebrill 6ed (9am -3pm).
CEFNDIR
Mae’r digwyddiadau gyrfaoedd hyn yn rhan o raglen Barod am Waith sy’n cael eu cyflwyno gan Sir Ddinbych yn Gweithio, sydd yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych? Trwy weithio gyda busnesau/sefydliadau lleol mae rhaglen Barod am Waith yn darparu cefnogaeth ychwanegol, mentora a chyngor gyrfaoedd i drigolion Sir Ddinbych i’w cefnogi i ddatblygu’r sgiliau a fydd yn eu helpu i ganfod a chynnal swydd yn y dyfodol.
NODAU’R DIGWYDDIAD
- Galluogi myfyrwyr i gyfarfod amrywiaeth o fusnesau/sefydliadau o sectorau galwedigaethol gwahanol
- Addysgu, ysbrydoli ac ysgogi myfyrwyr am eu cyfleoedd gyrfaol
- Rhoi cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn profiadau ymarferol a rhyngweithiolmewn amrywiaeth o sectorau galwedigaethol
- Cynorthwyo myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus cyn dewis eu pynciau TGAU
Y CAMAU NESAF
•Dewis eich opsiynau
•Ymchwilio i’r diwydiant sydd o ddiddordeb i chi
•Mynd ar brofiad gwaith
SIR DDINBYCH YN GWEITHIO
Ffôn: 01745 331438 / 07342070635
E-bost: sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk
www.sirddinbych.gov.uk/sirddinbychyngweithio