Skip to content

“S”

a picture showing a heart made out of jigsaw pieces

Atgyfeiriwyd S* at Sir Ddinbych yn Gweithio gan ei Hyfforddwr Gwaith yn y Ganolfan Waith leol. Roedd yn awyddus i gael gwaith wedi bod yn gweithio ym McDonald’s yn ddiweddar ac yn eiddgar i roi cychwyn arni. Mae gan S awtistiaeth ac roedd hynny’n cyfyngu rhywfaint ar y math o waith y gallai ei wneud, a ble gallai weithio. Yn anffodus, wrth i S ddechrau gweithio gyda’r prosiect fe darodd y pandemig Covid 19 ac oherwydd ei gyflwr roedd arno ofn y byd mawr y tu allan ac felly’n methu â gadael y tŷ. O ganlyniad i hynny buom yn gweithio ar bethau eraill i’w baratoi ar gyfer gwaith pan fyddai’n teimlo’n ddiogel ac yn barod i chwilio am swyddi eto.

Cafodd S ddiagnosis o anhwylder yn y sbectrwm awtistig ac mae’n anodd iddo fod mewn sefyllfaoedd mewn grŵp, mynd i leoedd newydd neu gwrdd â phobl am y tro cyntaf. Bu’n gweithio ym McDonald’s yn y gorffennol ac roedd yn mwynhau’r gwaith yn fawr tan iddo adael wedi i gamddealltwriaeth rhyngddo ef a’r tîm rheoli ei wneud yn rhy anghyfforddus i weithio yno mwyach. Mae S yn byw gartref â’i deulu ac mae ganddo frodyr a chwiorydd sydd hefyd ag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig; mae gwrthdaro rhyngddynt o bryd i’w gilydd, sy’n medru gwneud pethau’n anodd iddo ar yr aelwyd.

Roedd gan S amheuon ynglŷn â’r gwasanaeth a sut allem ei helpu. Yn ein hapwyntiad cyntaf fe esboniais y gwasanaeth iddo a gofyn beth hoffai ei wneud, ac fe soniodd S am ei brofiadau gwaith a phwysleisio ei fod yn dymuno gweithio mor lleol â phosib er mwyn iddo fedru cerdded i’r gwaith heb orfod dibynnu ar ei fam i roi lifft iddo. Dywedodd S ei fod yn hoffi cadw at drefn a bod arno angen gwybod pryd a sut y bydd pethau’n digwydd, fel ei fod yn medru deall beth sydd wedi’i gynllunio a bod dim byd annisgwyl yn digwydd; mae hyn yn gyffredin ymysg pobl awtistig. Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r math o gymorth y gallai S fod ei angen gen i, fe gefais sgwrs gydag S a’i fam gyda’i gilydd i gael gwybod a oedd yn cael unrhyw gymorth arall gyda’i awtistiaeth, gan y byddai hynny’n hwyluso pethau iddo wrth gymryd rhan yn y prosiect. Nid oedd S a’i deulu wedi cael llawer o gymorth ers pan wnaethpwyd y diagnosis, ac felly awgrymais eu bod yn cysylltu â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a fedrai wneud asesiad diagnostig o awtistiaeth i oedolion, yn ogystal â rhoi cymorth a chyngor i bobl awtistig, eu gofalwyr, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol. Esboniais pa gymorth y gallai’r gwasanaeth ei gynnig, a’u bod yn medru gweithio gydag S i’w integreiddio yn y gweithle, a’i helpu gyda ffyrdd o ymdopi. Ar ôl clywed hyn roeddent yn awyddus i drefnu cyfarfod ar unwaith i gael gwybod mwy.

Fe gysylltais â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig i drefnu eu bod yn ymuno yn ein cyfarfod nesaf, ac roedd S a’i fam yn llawn cyffro am y posibilrwydd o gael cefnogaeth, yn enwedig pan fyddai S yn dechrau gweithio. Byddai’r bartneriaeth yn hwyluso’r cyfathrebu rhwng S a’i ddarpar gyflogwyr, gan ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn ei swydd flaenorol.

Wedi hyn fe gynorthwyais S i ddatblygu’i C.V. a chreu cynllun ar y cyd â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ar gyfer yr adeg pan fyddai S yn dod o hyd i swydd, er mwyn sicrhau bod ei gyflogwr newydd yn deall ei anghenion yn well ac yn medru addasu yn ôl y rheiny. Ond yn anffodus, dyma pryd ddechreuodd Covid 19. Oherwydd y pandemig roedd y byd mawr y tu allan yn llethu S, ac nid yw wedi gadael y tŷ ers bron i flwyddyn gan fod yr ofn yn ormod iddo.  Rwyf wedi dal ati i gefnogi S a cheisio dod o hyd i gyrsiau ar-lein sy’n ei ddifyrru a’i gadw’n brysur. Yn anffodus, er bod y cyrsiau’n rhai hyblyg a gynhelid oll ar-lein, ni theimlai S y byddai’n elwa ar roi cychwyn arnynt ynghanol y pandemig, rhag ofn y byddai wedi anghofio popeth a ddysgodd erbyn iddo fod yn barod i ddechrau gweithio.  Fe gymerodd rai misoedd i lwyddo dwyn perswâd arno, ond yn y pen draw fe sylweddolodd fod modd inni barhau â’r amryw gyrsiau ar-lein er mwyn sicrhau bod ei wybodaeth yn ffres ac yn gyfoes, ac y byddai hynny’n cadw’i feddwl yn brysur a’i baratoi ar gyfer dechrau gwaith yn syth pan fyddai cyfle’n codi.

Mae’r sefyllfa yn y flwyddyn aeth heibio wedi golygu na fedrai S gael gwaith mor fuan ag y bu’n gobeithio. Y peth pwysicaf, serch hynny, yw bod S wedi cadw’i hun yn ddiogel gydol y pandemig Covid 19 ac wedi datblygu ffyrdd newydd o ymdopi â’r newidiadau aruthrol sydd wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf. Byddwn yn dal ati yn y gobaith y gallwn ymchwilio i gyfleoedd am waith yn y dyfodol agos.

Mae gweithio â gwasanaethau eraill yn hollbwysig er mwyn sicrhau y darperir cymaint o gefnogaeth â phosib i bob cyfranogwr. O ganlyniad i weithio’n agos â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig teimlai S yn fwy hyderus ynglŷn â dychwelyd i’r gwaith gan y gallai ddal i gael cefnogaeth ar ôl cael swydd. Mae’r flwyddyn aeth heibio wedi dangos inni mor sydyn y gall pethau newid, fodd bynnag, ac mae’n bwysig medru addasu i bob sefyllfa sy’n codi. Nid yn unig drwy roi cefnogaeth i’r cyfranogwyr ond hefyd drwy sicrhau eu bod yn ymdopi â’r newidiadau aruthrol hyn ac yn rhoi cynlluniau newydd ar waith sy’n effeithiol.