Skip to content

“Mr A”

a picture showing builders on a site

Bu Mr A yn ddi-waith am ddwy flynedd cyn derbyn cymorth gan Gymunedau dros Waith a Mwy, ac ym mis Ionawr 2021 fe gafodd swydd llawn amser fel Prentis Amlsgiliau gyda chontract sefydlog am ddwy flynedd, diolch i’r cyngor a chymorth gan ei Fentor Cyflogaeth.

Atgyfeiriwyd Mr A gan y Ganolfan Byd Gwaith, ac roedd yn derbyn y Credyd Cynhwysol fel rhan o’r drefn Chwiliad Gwaith Dwys, ac yntau wedi bod yn ddi-waith ers dros ddeunaw mis.  

Roedd gan Mr A oddeutu deng mlynedd o brofiad mewn amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys gweithio fel labrwr, mewn ffatri ac mewn warws.  Yn y gorffennol bu naill ai’n gweithio drwy asiantaethau neu ar gontractau tymor byr, a oedd yn golygu y bu allan o waith am gyfnodau yma ac acw. Collodd Mr A ei swydd ddiwethaf fel labrwr ym mis Ionawr 2018 a bu’n waith ers hynny. Gadawodd Mr A’r ysgol heb unrhyw gymwysterau ac nid oedd wedi mynd i unrhyw sefydliad Addysg Bellach, ond roedd ganddo gerdyn CSCS dilys a oedd yn ei alluogi i weithio ar safleoedd adeiladu.  Credai Mr A ei fod yn bryd iddo ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau i’w helpu i ddatblygu ei yrfa a rhoi cychwyn ar feistroli crefft. Yn ddelfrydol dymunai wneud prentisiaeth lle byddai’n medru dysgu wrth weithio, gan ennill cymwysterau a chyflog byw ar yr un pryd.

Er bod gan Mr A brofiad o weithio, roedd bod heb waith am dros ddeunaw mis wedi cael effaith ar ei hunan-barch ac felly roedd yn brin o hyder wrth geisio am swyddi.

Wedi ymuno â Chymunedau dros Waith a Mwy, cynorthwywyd Mr A i ymchwilio i ffyrdd eraill o gael swyddi a gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu, gan gynnwys mynd i’r coleg i ennill cymwysterau ac amrywiaeth o gyfleoedd galwedigaethol. Penderfynodd Mr A fynd am brentisiaeth gan mai hynny a fyddai’r ffordd orau iddo ennill y sgiliau a chymwysterau angenrheidiol i wneud y gwaith a chael cyflog wrth wneud.  

Lluniodd ei fentor gynllun gweithredu a oedd yn amlygu anghenion cefnogaeth Mr A a’r pethau oedd yn ei rwystro rhag cael gwaith. Yn y cynllun gweithredu hwn roedd yno dargedau bach syml i helpu Mr A i fagu hyder a hunanbarch drwy lunio CV, ymuno â chlwb swyddi a chymryd rhan mewn sesiynau i feithrin sgiliau cyfweliad. Bu’r mentor yn cefnogi Mr A i lunio CV a oedd yn amlygu ei sgiliau, profiadau a llwyddiannau.  Wrth wneud sesiynau sgiliau cyfweliad magodd Mr A hyder a dysgu technegau gwell. Cynigiwyd cymorth ychwanegol gyda defnyddio amryw gyfryngau fideogynadledda gan y cynhelid mwy a mwy o gyfweliadau fel hyn oherwydd y pandemig, ac roedd hyn hefyd yn brofiad newydd i Mr A.

Wedi derbyn y cymorth dwys fe lwyddodd Mr A i gael cyfweliad am swydd prentis.  Hwn oedd cyfweliad cyntaf Mr A ers iddo golli ei swydd ddiwethaf bron i ddwy flynedd yn ôl.  Teimlai Mr A’n ffyddiog y byddai’n gwneud yn dda yn y cyfweliad, ac yn wir fe gafodd gynnig y swydd ar drothwy’r Nadolig, ar 15 Rhagfyr, gan gael gwybod y byddai’n dechrau ar 6 Ionawr 2021.

Roedd Mr A wrth ei fodd i gael y cyfle, nid yn unig am ei fod wedi cael y swydd, ond hefyd gan y byddai’n cael hyfforddiant wrth weithio a medru mynd i’r coleg i wneud cymhwyster NVQ Lefel 2.  Ac yntau yn ei dridegau roedd Mr A wedi tybio na fyddai byth yn medru gwneud prentisiaeth, ac felly roedd ar ben ei ddigon! Mae Mr A wedi mwynhau’r swydd yn fawr ers iddo ddechrau. Fe gwblhaom ein hapwyntiad olaf gyda’n gilydd, ac roedd ei siart yn dangos y twf yn ei hunanbarch.

Dywedodd Mr A y dymunai ddiolch i’w fentor, Melanie Sillett, am ei holl gymorth ac anogaeth, ac am ei helpu i gael gwaith. Roedd hefyd yn ddiolchgar iawn, meddai, am y gefnogaeth ariannol a gafodd gyda chostau teithio pan ddechreuodd yn y swydd, gan y bu’n rhaid iddo weithio am wythnos gyfan cyn cael cyflog.

Cymorth dwys i gael swydd, cyswllt cyson ac anogaeth – peidiwch byth â rhoi’r ffidil yn y to!

I gael rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â: Melanie Sillett – Mentor Cyflogaeth Gymunedol

Ffôn:  07768 006414

E-bost: Melanie.Sillett@denbighshire.gov.uk