Skip to content

Mr. L

Cyfeiriwyd Mr L i Sir Ddinbych yn Gweithio gan ei fentor swyddi trwy’r Ganolfan Waith a Mwy ym Mehefin 2019 gan ei fod wedi bod yn ddi-waith am nifer o flynyddoedd. Roedd Mr L yn y Fyddin am bedair blynedd ond fe gafodd ei ryddhau ar sail iechyd ac ers hynny wedi gwneud nifer o swyddi gwahanol gyda chyfnodau hir rhyngddynt o fod yn ddi-waith. Roedd Mr L eisiau dychwelyd i’r byd gwaith a gyda diddordeb mewn gwaith diogelwch yn benodol ond ni allai fforddio’r hyfforddiant i ennill ei fathodyn SIA.

Rhoddais gymorth mentora 1:1 i Mr L ac yn ystod y mentora fe gefnogais ei ragolygon cyflogaeth drwy ysgrifennu CV proffesiynol a’i helpu gyda thechnegau cyfweliad. Dyma ni’n siarad am wahanol gyfleoedd a sut i chwilio am swyddi yn llwyddiannus.

Yn ystod ei amser ar y prosiect fe lwyddodd Mr L i gael lleoliad gwirfoddol gyda thirluniwr lleol gyda’r dealltwriaeth ei fod yn gyfle da am brofiad diweddar ar ei CV ac i gael geirda.

Roedd Mr L eisiau canlyn cyfleoedd mewn Diogelwch ymhellach oherwydd ei brofiadau gyda’r Fyddin, ond nid oedd yn gallu fforddio’r hyfforddiant. Wrth edrych i mewn i hyn ymhellach sylweddolwyd bod Sir Ddinbych yn Gweithio yn gallu ariannu’r cwrs ond bod Mr L angen ID, felly talwyd am gopi o’i dystysgrif geni a thrwydded yrru a fyddai’n siŵr o’i helpu gydag agweddau eraill o’i fywyd. Gan nad oedd hyfforddiant ar gael yn lleol, talodd Cymunedau am Waith ei gostau teithio i’r cwrs ac fe dderbyniodd gwerth wythnos o docynnau trên bob ffordd.

Roedd ymrwymiad Mr L yn amlwg iawn ac fe gwblhaodd yr wythnos lawn o hyfforddiant gan ddisgwyl yn eiddgar am ganlyniadau ei asesiad. Yn anffodus, ni lwyddodd Mr L i basio’r asesiad a bu’n rhaid iddo ail-sefyll.  Defnyddiwyd y Gronfa Rhwystrau eto i ariannu’r costau teithio a’r tro hwn roedd Mr L yn llwyddiannus! Gyda’n gilydd dyma ni’n llenwi’r cais ar-lein ar gyfer ei fathodyn SIA.

Yn anffodus wrth i ni ddisgwyl iddyn nhw gymeradwyo ei fathodyn dyma lywodraeth y DU yn gorfodi cyfyngiadau cyfnod clo oherwydd Covid-19. Dyma ni’n parhau i aros mewn cysylltiad dros e-bost neu ar y ffôn ac fe fynegodd Mr L ei uchelgais i fynd i weithio, cyn belled â’i fod yn ddiogel i wneud hynny.

Yn dilyn gohebiaeth gyda Rachel, un o fentoriaid gwaith y Ganolfan Waith a Mwy, dyma ni’n dod ar draws swyddi diogelwch gyda chwmni diogelwch lleol  ar gael mewn ysbyty lleol, Ysbyty Glan Clwyd. Cafodd y wybodaeth ei basio mlaen i Mr L a chyn gynted â phosib dyma’n mynd ati ar wirfodd ei hun i gysylltu gyda Rachel a’r cwmni diogelwch i fynegi ei ddiddordeb yn y swydd. Ar ôl anfon y wybodaeth berthnasol roedd Mr L yn llwyddiannus, roedd wedi cael y swydd.

Dyma Rachel, Mr L a finnau yn siarad dros y ffôn ac e-bost er mwyn sicrhau fod gan Mr L bob dim oedd ei angen arno ar gyfer ei ddyddiad dechrau. Fe ddywedodd ei fod angen dillad ac esgidiau gwaith ar frys, felly fe wnes i gais ar frys i’r Gronfa Rhwystrau i gymeradwyo’r cais.

Mae Mr L wedi dangos penderfyniad gwych trwy gydol ei amser gyfer Sir Ddinbych yn Gweithio, a gyda chefnogaeth mae o wedi gallu cyflawni ei nod o fod nôl mewn cyflogaeth. Mae’r cyswllt sydd wedi bodoli rhwng Sir Ddinbych yn Gweithio a’r Ganolfan Waith a Mwy wedi bod yn gadarnhaol trwy gydol ei siwrne, ac wedi galluogi dull cydlynol o sicrhau gwaith i’r ymgeisydd.

Rydw i fel mentor, a Mr L wedi gorfod addasu yn sydyn i fyd sy’n prysur newid oherwydd y pandemig. Dyma ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n dal i gyfathrebu yn agored a chlir ac yn parhau i edrych ar gyfleoedd ac fe arweiniodd hynny at gyflogaeth lwyddiannus.