Skip to content

Astudiaeth Achos – C

Mae C wedi dangos ysgogiad a phenderfyniad yn yr amser heriol hwn gyda Covid 19. Cyn y cyfnod clo roedd ganddi ysgogiad a phenderfyniad i weithio’n galed i sicrhau gwaith ond yn anffodus cafodd hyn ei atal oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo.  

Gyda chefnogaeth barhaus Swyddog Ymgysylltu Allgymorth ADTRAC dros y ffôn, llwyddodd C i drafod cyfleoedd addas a’r dewisiadau sydd ar gael iddi. Gyda’i gilydd, llwyddodd C a’r Swyddog Ymgysylltu Allgymorth i nodi anghenion hyfforddiant fyddai yn ei chefnogi i gael ei swydd ddelfrydol ac yn edrych yn dda ar ei CV! Rhoddwyd cynlluniau mewn lle i’r cwrs hyfforddi addas fynd yn ei flaen drwy’r cam caffael. Yn ystod y cyfnod hwn gwelwyd hyfforddiant Cyfrifon Hanfodol Sage ar gael a hynny am ddim! (Pris arferol yn £149!) Gyda chymorth y Swyddog Ymgysylltu Allgymorth, cofrestrwyd C ar gyfer y cwrs a llwyddodd i’w basio’n ardderchog y diwrnod canlynol. Mwynhaodd C y cwrs gymaint nes iddi gael ei chyfeirio at Open Learn er mwyn iddi gael mynediad at eu cyrsiau am ddim. Mae hi wedi mynd o nerth i nerth ac wedi parhau i gwblhau nifer o gyrsiau fydd yn ychwanegu’n helaeth at ei CV ac o fudd iddi wrth geisio am swyddi.

Mae C wedi dangos agwedd meddwl agored a llawn ysgogiad at y cyfnod clo ac oherwydd hynny, llwyddodd i ddatblygu ei sgiliau mewn sefyllfa anodd a chyfyngedig.  

Y camau nesaf i C yw cwblhau’r hyfforddiant a nodwyd i gychwyn unwaith y bydd cyrsiau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal unwaith eto ac i’r Swyddog Ymgysylltu Allgymorth barhau i’w chefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith newydd.

Ariennir ADTRAC yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

#EUfundscymru