Nid yw’r cogydd o fri, Carl yn gadael i unrhyw beth, gan gynnwys ei nam ar y golwg, sefyll yn ei ffordd o gyflawni ei amcanion i ddod o hyd i gyflogaeth am dâl. Ar ôl iddo ymgeisio am gannoedd o swyddi, dosbarthu ei CV â llaw a chwilio am swyddi, fe aeth Carl at ADTRAC i gael cymorth.
Mae wedi cymhwyso ym maes lletygarwch ac arlwyo, ac mae’n saith mlynedd ers i Carl gael gwaith ddiwethaf. Yn benderfynol, mae wedi ymroi’n llwyr i ddod o hyd i waith gydag egni diddiwedd. Mae’r cyn fyfyriwr o Goleg Llandrillo yn gwirfoddoli mewn siop elusen i blant ac mewn siop blanhigion yn ei dref enedigol. Ond mae Carl yn teimlo fwyaf hapus yn gweithio yn y diwydiant lletygarwch.
Mae agwedd benderfynol Carl wedi ymestyn i’w iechyd a’i les ei hun hefyd. Mae wedi colli dros 7 stôn o bwysau er mwyn gwella ei lefelau egni ac nid yw’n gadael i nam ar y golwg fod yn rhwystr iddo. Mae ADTRAC wedi dod o hyd i Gwrs Gwasanaeth Cwsmeriaid i Carl i wella ei sgiliau, wnaeth ei fwynhau ac mae’n teimlo y bydd yn rhoi’r sgiliau trosglwyddadwy iddo ar gyfer y gweithle yn y dyfodol.
Dywedodd Carl: “Mae gen i gulfrydedd, ond unwaith dwi’n gyfarwydd â fy amgylchedd, nid yw’n broblem. Wrth golli pwysau mae gen i lawer mwy o egni i chwilio am waith ac i fynd ati gyda fy ngwirfoddoli. Mae ADTRAC wedi cynnig llawer o gymorth. Maent wedi rhoi pecyn cyfan o gefnogaeth i mi. Byddwn wrth fy modd yn gweithio mewn caffi lle gallaf gynorthwyo i baratoi bwyd ac ymgysylltu â chwsmeriaid. Mae’n wych gwybod fod ADTRAC yno i fy helpu ac nad ydw i ar fy mhen fy hun. Fe hoffwn i fod yn berchen ar fy mwyty fy hun rhyw ddydd a dwi’n hyderus y bydd hynny’n digwydd.”
Dywedodd ei swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu: “Mae Carl mor benderfynol o gael cyflogaeth am dâl ac mae’n mynd ati’n rhagweithiol i ddod o hyd i swydd, a dyna rydym ni’n gofyn i bawb rydym ni’n gweithio gyda nhw i wneud. Rydym ni’n helpu Carl i ddatblygu ei CV i sicrhau ei fod yn apelio i gyflogwyr posibl. “Rydym ni’n dewis ac yn gweithio trwy’r ceisiadau swyddi gyda Carl, gan ei helpu i baratoi llythyrau ategol ac anfon y ceisiadau. Ar ôl iddo fod yn ddi-waith ers peth amser, mae hi hefyd yn bwysig bod Carl yn gallu dangos ei sgiliau lletygarwch a sgiliau cwsmer i gyflogwyr. Felly rydym yn chwilio i ddod o hyd i leoliadau addas iddo, er mwyn iddo gael mwy o brofiad ac ychwanegu hynny at ei CV.”
Mae ADTRAC wedi cyllido Cwrs Hylendid Bwyd Lefel 2 i Carl yn ddiweddar ac mae wedi’i gwblhau’n llwyddiannus ac mae’n gobeithio y bydd yn ei helpu i ddiwallu’r meini prawf i sicrhau’r swydd y bu’n breuddwydio amdani. Bydd Carl yn aros gydag ADTRAC nes iddo ddod o hyd i swydd sydd yn bodloni ei anghenion orau.
“Dwi wedi meddwl erioed bod gweithio yn bwysig. Fe hoffwn i swydd lle dwi’n gweithio gyda chwsmeriaid. Dwi’n mwynhau rhyngweithio gyda phobl, siarad gyda nhw a’u helpu. Dwi wedi gwneud cais am gannoedd o swyddi, wedi mynd a fy CV i fusnesau’n bersonol, ac wedi gwneud galwadau dilynol, heb unrhyw lwyddiant. Y cyfan dwi eisiau ydi’r cyfle i brofi fy hun, felly fe ddes i at ADTRAC i gael cymorth,” meddai Carl.