Skip to content

Sesiwn Bwyd a Hwyliau ADTRAC

A picture showing people attending a breakfast event

I hybu wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, penderfynodd ADTRAC i gyflwyno Diwrnod Lles Bwyd a Diod. Mae nifer o faterion wedi eu codi o amgylch bwyd, fel cyfranogwyr yn methu gallu fforddio prynu prydau iach gan arwain at faterion delwedd corff a chynnydd yn y defnydd o barseli banciau bwyd. Roeddem eisiau cynnig dewisiadau iach a fforddiadwy ar y fwydlen i gyfranogwyr a chyflwyno’r grwpiau bwyd sydd eu hangen ar gyfer deiet cytbwys.

Gwahoddwyd saith o gyfranogwyr i’r sesiwn a gynhaliwyd yn yr Hwb, Dinbych ac roedd pump o gyfranogwyr yno ar y diwrnod. Roedd yn ddiwrnod heulog a chafodd y cyfranogwyr fag o nwyddau ADTRAC oedd yn cynnwys y canlynol: nodiadur ar gyfer cynllunio bwydlen; rhestr cymharu costau archfarchnad ar gyfer siopa; potel ddŵr i’w hailddefnyddio; banc gwefru ffôn/gliniadur; taflen Bwyd a Hwyliau a bag siopa a beiro ADTRAC.

Dechreuwyd gyda chyflwyniadau i dorri’r rhew ac roedd y cyfranogwyr yn dod ymlaen â’i gilydd ar unwaith. Cawsom sgwrs fyr ynglŷn â pham mae deiet iach yn bwysig a’r math o fwydydd i’w bwyta sy’n cael eu cydnabod i wella hwyliau. Hefyd, bum yn trafod coginio ar gyllideb a dewisiadau cinio yn hytrach na phrynu brechdanau wedi’u pacio. Roedd y cyfranogwyr wedi rhoi cynnig ar amrywiaeth o fyrbrydau fel cnau ffrengig, bricyll sych, ffrwythau a physgodyn mwg (y cyfan yn mynd i lawr yn dda). Yna gwnaethom i gyd lenwi ein poteli dŵr a mynd am dro i fwynhau’r olygfa o amgylch Castell Dinbych.

Wrth fynd am dro, gwnaethom i gyd ddod i adnabod ein gilydd ac roedd yn braf gweld sut oedd y cyfranogwyr i gyd yn dod ymlaen. Cawsom gyfle i dynnu llun y tu allan i’r castell, cyn mynd ar draws y bont godi i sŵn ceffylau a milwyr. Roedd pawb yn dewud pa mor braf oedd y golygfeydd o’r castell, awgrymodd y Nyrs Iechyd Meddwl ein bod yn cael sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar ar yr clawdd y tu allan. Roeddem i gyd yn eistedd mewn cylch ac yn gwneud ychydig o fyfyrdod yn yr heulwen braf, cyn sgwrsio am yr hyn sy’n ein gwneud yn hapus, fel hobïau a lleoliadau.

Roedd llawer o’r cyfranogwyr wedi gofyn i weld yr hen Ysbyty Gogledd Cymru, felly gwnaethom gerdded i’r fynedfa a thrafod hanes yr ardal a’r pwysigrwydd o’i gael yng Nghymru. Cyn hyn, roedd y mwyafrif o’r cleifion ond yn siarad Cymraeg, felly roedd iaith yn rhwystr i wella eu hiechyd meddwl gan fod pob ysbyty yn yr ardal yn Lloegr, a siaradwyd Saesneg gyda’r cleifion.

Yna aethom yn ôl i’r Hwb lle roedd y cyfranogwyr yn paratoi a choginio fajitas cyw iâr. Roedd pawb wedi eu mwynhau’n fawr iawn, yn arbennig gan eu bod yn teimlo eu bod wedi eu paratoi eu hunain. Yna cafwyd nythod meringue gydag aeron, iogwrt Groegaidd a mêl. Roeddem wedi trefnu i dynnu lluniau o’r bwyd, ond roedd pawb wedi dechrau ei fwyta yn rhy gyflym. Gwnaethom lwyddo i gael llun o bob un ohonom, gyda rhywfaint o’r bwyd oedd yn weddill. Roedd adborth o’r diwrnod yn gadarnhaol iawn, gyda’r cyfranogwyr i gyd yn dweud sut yr oeddent yn teimlo eu bod wedi gwneud ffrindiau da ar y diwrnod. Roedd adborth arall ar yr hyn yr oeddent wedi cael budd ohono ar y diwrnod yn cynnwys: ‘Dysgais lawer o wybodaeth newydd ar fwyta’n iach ac y gallwch barhau i fwyta’n iach ar gyllideb’ a ‘bod yn un gyda natur’.

Roedd y diwrnod wedi cael effaith gadarnhaol ar bawb dan sylw. Oherwydd natur hamddenol y sesiwn, roedd llawer o rwystrau o amgylch pryder gan y cyfranogwyr wedi eu torri i lawr. Roedd y sesiwn yn cynnwys ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, bwyta’n iach, cyllidebu, hyder, hanes lleol a sut i geisio canolbwyntio ar gamau cadarnhaol tuag at amcanion.