Skip to content

Oedolion sgiliau isel

Y dangosydd allweddol sydd gennym i ddangos sgiliau isel yn y boblogaeth o oedolion yw cyfradd yr oedolion heb gymwysterau. Hoffem weld:

  • y gyfradd yn gostwng o lefel Ebrill 2018
  • cyfradd Sir Ddinbych yn is na chyfradd Cymru
  • bod y cymdogaethau yn y sefyllfa waethaf yn dal i fyny gyda’r cymdogaethau sy’n gwneud yn well yn Sir Ddinbych

Perfformiad cyfredol

Mae’n ddyddiau cynnar a 2018 yw’r data diweddaraf sydd gennym. Mae gennym eisoes gyfradd is o oedolion heb gymwysterau na chyfradd Cymru. Nid yw data ar lefel cymdogaeth leol ar gael eto ond bydd yn cael ei ddiweddaru’n fuan.